Logo YouVersion
Eicon Chwilio

20/20 Gwelwyd. Dewiswyd. Anfonwyd. Gan Christine Caine Sampl

20/20: Seen. Chosen. Sent. By Christine Caine

DYDD 7 O 7

DŶN NI WEDI BOD, GWELD, EIN DEWIS, AC ANFON. GAD I NI FYND!

“Ewch i gyhoeddi'r newyddion da i bawb drwy'r byd i gyd.” - Marc 16:15 beibl.net

Roedd tyfu i fyny yn ferch i fewnfudwyr Groegaidd cenhedlaeth gyntaf yn golygu tyfu i fyny mewn swigen Roegaidd iawn. Oherwydd bod fy rhieni - a'u ffrindiau i gyd - wedi dod i Awstralia heb neb i ddibynnu arnyn nhw ond ei gilydd, wnaethon nhw glymu gyda'i gilydd, wedi'u gwreiddio'n gadarn yn y syniad bod yna ddiogelwch mewn niferoedd. Felly, ar hyd fy mhlentyndod, arhosodd fy rhieni a modrybedd ac ewythrod a chefndryd a ffrindiau a chymdogion iddyn nhw eu hunain cymaint â phosibl mewn cymuned glos, fel pe baen nhw’n ofni beth allai ddigwydd pe baen nhw’n mentro allan. A doedd e ddim oherwydd nad oedden nhw’n siarad Saesneg. Roedd fy rhieni yn siarad pum iaith mewn gwirionedd: Arabeg, Groeg, Ffrangeg, Eidaleg a Saesneg. Roedden nhw'n bobl wych! Roedden nhw’n gwybod sut i fyw o fewn cymdeithas fodern, ond dewison nhw fyw mewn byd bach o'u gwneuthuriad eu hunain.

Weithiau, dwi’n meddwl ein bod ni fel Cristnogion yn ymddwyn yn debyg. Dŷn ni'n byw mewn swigod Cristnogol, y tu mewn i'n cymunedau Cristnogol, y tu mewn i'n casgliad o ffrindiau Cristnogol, a dŷn ni'n aros yno. Falle ein bod ni hyd yn oed yn cuddio allan yna, yn yr isddiwylliant Cristnogol o’n gwneuthuriad ein hunain. Dŷn ni'n cynllunio'r hyn dŷn ni'n meddwl yw'r nefoedd ar y ddaear, a dŷn ni'n dal gafael mewn gobeithion y bydd popeth yn mynd yn iawn nes i ni adael y blaned hon. Tra ar hyd yr holl amser, mae Iesu wedi gweld ni, wedi ein dewis ni ac WEDI EIN HANFON NI ALLAN I'R BYD i wneud disgyblion. Allwn ni ddim gwneud ei orchymyn pennaf yn flaenoriaeth gyntaf os na wnawn ni dorri allan o'n swigen.

Wnaeth Iesu ddim ein hachub i adeiladu isddiwylliant Cristnogol. Nac I osgoi cyfarfod â phobl nad ydyn nhw'n edrych fel ni, ymddwyn fel ni, meddwl fel ni, neu gredu fel ni. Wnaeth e ddim ein hachub ni i guddio rhag y byd, osgoi’r byd, anwybyddu’r byd, ofni’r byd, casáu’r byd, condemnio’r byd na barnu’r byd. Yn llythrennol fe'n hanfonodd ni i'r byd... i wneud disgyblion... i ni garu'r byd a greodd ac a charu mor dyner ac mor angerddol.

“Ewch i gyhoeddi'r newyddion da i bawb drwy'r byd i gyd.”

Pa air sydd bwysicaf yn yr adnod? - EWCH.

Ewch......i’r holl fyd.

Ewch i garu’r rhai sydd ar goll.

Dos i dosturio wrth y rhai coll.

Dos a dweud wrth y rhai sydd ar goll am Iesu.

Ewch i wneud disgyblion.

GWEDDI

Dad Nefol, diolch dy fod wedi fy ngweld, wedi fy newis ac wedi fy anfon. Helpa fi i gael y cryfder a’r dewrder i fynd lle rwyt ti’n dweud wrthyf am fynd a gwneud yr hyn rwyt ti wedi fy ngalw i’w wneud. Amen.

Am fwy, dos i: www.christinecaine.com/2020study

Addaswyd o 20/20: Seen.Chosen.Sent gan Christine Caine. Hawlfraint © 2019 gan Christine Caine. Ailargraffwyd gyda chaniatâd Lifeway Women. Cedwir pob hawl.

Diwrnod 6

Am y Cynllun hwn

20/20: Seen. Chosen. Sent. By Christine Caine

Fedri di ddychmygu teimlo cael dy weld cymaint gan Dduw fel na elli di helpu ond gweld eraill? Elli di ddychmygu dy fywyd cyffredin bob dydd, yn cael effaith dragwyddol sylweddol? Bydd y defosiwn 7 diwrnod hwn gan Christine Caine yn dy helpu i ddarganfod sut mae Duw wedi dy weld, dy ddewis, a'th anfon i weld eraill ac i'w helpu i deimlo eu bod wedi'u gweld fel y mae Duw yn eu gweld - gyda golwg 20/20.

More

Hoffem ddiolch i Christine Caine - A21 Propel CCM am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://www.christinecaine.com/2020study