20/20 Gwelwyd. Dewiswyd. Anfonwyd. Gan Christine Caine Sampl
GWNA EIRIAU OLAF IESU YN BRIF FLAENORIAETH I TI
Felly ewch i wneud pobl o bob gwlad yn ddisgyblion i mi, a'u bedyddio nhw fel arwydd eu bod nhw wedi dod i berthynas â'r Tad, a'r Mab a'r Ysbryd Glân. A dysgwch nhw i wneud popeth dw i wedi'i ddweud wrthoch chi. Gallwch chi fod yn siŵr y bydda i gyda chi bob amser, nes bydd diwedd y byd wedi dod.”. - Mathew 28:19-20 beibl.net
Mae’r adnodau hyn yn cael eu cyfeirio atyn nhw’n aml fel Y Comisiwn Mawr oherwydd bod Duw wedi ein comisiynu i “wneud pobl o bob gwlad yn ddisgyblion i mi.” Cofnododd Mathew mai dyma'r geiriau olaf un ddwedodd Iesu gael ei gymryd i fyny i’r nefoedd.
Onid yw geiriau olaf y mae rhywun yn eu dweud bob amser yn ymddangos yn bwysig? Os yw rhywun yn sgwennu eu hewyllys, maen nhw'n sgwennu eu cyfarwyddiadau a'u cofion terfynol. Onid yw’r geiriau hynny yn rai fyddwn ni byth yn eu hanghofio?
Pan fu farw fy mam, roedd ar yr un diwrnod â fy mharti pen-blwydd yn 50 oed. Roedd Nick wedi cynnal y parti gwych hwn i mi gyda chymaint o ffrindiau, ac ar y ffordd adref, weles i mod i wedi colli lot o alwadau gan fy mrawd, Andrew, a thestun syml: “Mae Mam wedi mynd.” Wna i byth anghofio pa mor ddiolchgar ro’n i'n teimlo bod fy mrawd arall, George, wedi ei helpu hi i gael FaceTime gyda mi yn gynharach yn y dydd. Ro’n wedi dweud wrthi sut y byddwn yn ei ffonio ar ôl y parti a rhoi adroddiad llawn iddi ar yr holl hwyl. Byddaf bob amser yn trysori’r atgof olaf sydd gen i ohoni - edrych ar ei hwyneb, gweld ei gwên felys a chlywed ei geiriau olaf wrtha i, “Dw i’n dy garu di.”
Sut allwn i ddim trysori ei geiriau olaf hi?
Oes unrhyw un erioed wedi rhoi geiriau olaf i ti? Beth fyddet ti'n ei wneud pe bai'r geiriau olaf hynny'n cynnwys cyfarwyddyd? Beth petai’r geiriau hynny’n cynnwys ymbiliad fel, “Gofala am dy frawd,” neu, “Gofala am dy fam drosof i”? Oni fyddai’r cais hwnnw’n dod yn genhadaeth yn dy fywyd? Oni fyddai’r cais hwnnw’n dod yn flaenoriaeth fwyaf i ti?
Falle ei bod hi'n bryd gwneud geiriau olaf Iesu yn brif flaenoriaeth i ni?
Dychmyga beth fyddai’n digwydd pe byddem yn cynnig ein bywydau i Dduw er mwyn iddo wneud ei dosturi, ei bŵer, ei bresenoldeb, ei wirionedd a’i gariad yn hysbys? Beth fyddai'n digwydd i ble bynnag y bydden ni’n mynd, y byddai pob ymateb a gawsom yn arwain aton ni’n dweud yn syml, “Duw, dw i ar gael yn gyfan gwbl? Defnyddia fi, defnyddia'r amser hwn, defnyddia’r ymatebion hyn i dynnu eraill atat ti?" Wyt t'n meddwl y byddai'n ateb y weddi honno? Dw i’n argyhoeddedig y byddai.
Mae Duw wedi dy ddewis di, a fi, i'w wneud yn hysbys yn y byd hwn. Does dim cynllun B. Cynllun A Duw ydym ni. Gad i ni wneud ei eiriau olaf yn brif flaenoriaeth i ni.
GWEDDI
Dduw, i bob man dw i’n mynd heddiw, rwyf ar gael yn gyfan gwbl. Defnyddia fi ym mhob ymateb, pob cyfarfyddiad, i dynnu eraill atat ti. Dw i wastad yn barod i fynd i wneud disgyblion, a dw i’n gweddïo hynny yn enw Iesu. Amen.
Addaswyd o 20/20: Seen.Chosen.Sent gan Christine Caine. Hawlfraint © 2019 gan Christine Caine. Ailargraffwyd gyda chaniatâd Lifeway Women. Cedwir pob hawl.
Am y Cynllun hwn
Fedri di ddychmygu teimlo cael dy weld cymaint gan Dduw fel na elli di helpu ond gweld eraill? Elli di ddychmygu dy fywyd cyffredin bob dydd, yn cael effaith dragwyddol sylweddol? Bydd y defosiwn 7 diwrnod hwn gan Christine Caine yn dy helpu i ddarganfod sut mae Duw wedi dy weld, dy ddewis, a'th anfon i weld eraill ac i'w helpu i deimlo eu bod wedi'u gweld fel y mae Duw yn eu gweld - gyda golwg 20/20.
More