Logo YouVersion
Eicon Chwilio

20/20 Gwelwyd. Dewiswyd. Anfonwyd. Gan Christine Caine Sampl

20/20: Seen. Chosen. Sent. By Christine Caine

DYDD 3 O 7

MAE DUW WEDI DY ANFON

Dw i ddim yn gweddïo ar i ti eu cymryd nhw allan o'r byd, ond ar i ti eu hamddiffyn nhw rhag yr un drwg. Dŷn nhw ddim yn perthyn i'r byd fwy na dw i'n perthyn i'r byd. Cysegra nhw i ti dy hun drwy'r gwirionedd; dy neges di ydy'r gwir. Dw i yn eu hanfon nhw allan i'r byd yn union fel wnest ti fy anfon i. Dw i'n cysegru fy hun er eu mwyn nhw, er mwyn iddyn nhw fod wedi'u cysegru drwy'r gwirionedd. “ - Ioan 17:15-19 beibl.net

Pan oedd Nick a minnau yn briod gyntaf, doedd yna ddim unrhyw apiau ar gyfer llywio. Roedden ni’n darllen mapiau papur oedd yn cuddio ffenestr flaen cyfan y car pan oedd heb ei blygu, ac na allech byth, byth blygu'n ôl fel yr oedd yn wreiddiol. Roedden nhw'n rhoi gymaint o straen ar deithiau! Pan ddaeth dyfeisiau, fel y Navman, ro’n i'n teimlo cymaint o ryddhad, fel petaem wedi cael ein rhyddhau o ryw fath o gaethiwed priodasol. Gydag un pryniant syml, cawsom heddwch nad oeddem ni erioed wedi'i adnabod o’r blaen.

Ond nid Navman ydoedd mewn gwirionedd. Roedd yn Navwoman, oherwydd bod llais y ddyfais yn fenyw â ffordd melfedaidd a llyfn o siarad: “Ar y gylchfan, cymerwch yr ail allanfa,” a phan oeddech chi’n methu’r allanfa, byddai hi'n dweud mewn llais braidd yn goeglyd, “Ailgyfeirio...ailgyfeirio.”

I ddechrau, ro’n i'n meddwl ei bod hi'n wych, ac fe wnes i ei henwi Matilda. Ond pan ddechreuais i sylwi bod Nick yn fodlon ufuddhau i bopeth oedd hi’n dweud! Doedd e ddim yn gwylltio pan oedd yn dweud pan oedd yn dweud wrtho ei fod wedi gwneud camgymeriad, neu i wneud tro pedol. Doedd e ddim yn pwdu, na siarad yn ôl. Roedd yn cydymffurfio yn dawel. Ro’n i wedi cael sioc. Rhoddais ddau o blant i'r dyn a wnaeth e wrando ar ei chyfarwyddiadau yn fwy na fi!

Wel, wnes i ofalu am Matilda. Pan fyddai hi’n dechrau dweud wrtha i am droi i’r chwith yn y llais melfedaidd llyfn hwnnw, byddwn i’n dweud, “Na.” A byddwn yn gyrru yn syth heibio'r tro. Ro’n i wrth fy modd pan oedd hi'n drysu i gyd a byddai ei sgrin yn troi'n wyn fel eira.

Er gwaethaf fy ymateb gwallgof i beiriant, ni allaf wadu ei bod yn gysur ar adegau. Pe baem ar goll, roedd hi'n gwybod sut i'n cael ni yn ôl ar y trywydd cywir. Pe baem mewn dinas anghyfarwydd, roedd hi'n gwybod sut i'n helpu ni i lywio strydoedd un ffordd a dargyfeiriadau adeiladu. Ble bynnag yr oeddem ni, roedd hi'n gwybod sut i'n cyfeirio ni i'r cyfeiriad cywir - waeth pa mor ddrwg oedden ni wedi gwneud llanast o bethau.

Onid dyna mae Duw eisiau ei wneud i'r rhai colledig? Onid dyna pam dŷn ni'n cael ein hanfon i fyd coll a drylliedig? Nid yw bod AR GOLL yn gyflwr mae Duw eisiau i unrhyw un aros ynddo. Wrth i ti dreulio dy ddiwrnod, edrycha am bwy y gelli di helpu i'w hailgyfeirio. Chwilia am y colledig y mae Duw wedi dy anfon i'w gweld.

GWEDDI

O Dad nefol, gwn mai dy ewyllys di yw i bawb ddod i'th adnabod ac i adnabod dyfnder dy gariad. Dw i'n codi __________________ i fyny atat ti, gan weddïo iddo gael ei weld ynot ti. Defnyddia fi, Arglwydd, i'w helpu e/hi i gael ei ailgyfeirio, iddo/iddi roi eu hunain i ti, gan ymddiried ei galon/ei chalon yn llawn i ti. Yn enw Iesu dw i’n gweddïo, Amen.

Addaswyd o 20/20: Seen.Chosen.Sent gan Christine Caine. Hawlfraint © 2019 gan Christine Caine. Ailargraffwyd gyda chaniatâd Lifeway Women. Cedwir pob hawl.

Diwrnod 2Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

20/20: Seen. Chosen. Sent. By Christine Caine

Fedri di ddychmygu teimlo cael dy weld cymaint gan Dduw fel na elli di helpu ond gweld eraill? Elli di ddychmygu dy fywyd cyffredin bob dydd, yn cael effaith dragwyddol sylweddol? Bydd y defosiwn 7 diwrnod hwn gan Christine Caine yn dy helpu i ddarganfod sut mae Duw wedi dy weld, dy ddewis, a'th anfon i weld eraill ac i'w helpu i deimlo eu bod wedi'u gweld fel y mae Duw yn eu gweld - gyda golwg 20/20.

More

Hoffem ddiolch i Christine Caine - A21 Propel CCM am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://www.christinecaine.com/2020study