Logo YouVersion
Eicon Chwilio

20/20 Gwelwyd. Dewiswyd. Anfonwyd. Gan Christine Caine Sampl

20/20: Seen. Chosen. Sent. By Christine Caine

DYDD 2 O 7

MAE DUW WEDI DY DDEWIS

” Clod i Dduw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist! Mae wedi tywallt pob bendith ysbrydol sydd yn y byd nefol arnon ni sy'n perthyn i'r Meseia. Hyd yn oed cyn i'r byd gael ei greu, cawson ni'n dewis ganddo i fod mewn perthynas â'r Meseia, ac i fod yn lân a di-fai yn ei olwg. Yn ei gariad trefnodd Duw ymlaen llaw i ni gael ein mabwysiadu i'w deulu. Iesu'r Meseia wnaeth hyn yn bosib; roedd wrth ei fodd yn gwneud hynny! Clod i Dduw am yr haelioni anhygoel mae wedi'i ddangos tuag aton ni! - ei anrheg i ni yn y Mab mae'n ei garu.” - Effesiaid 1:3-6 beibl.net

“Christine?” gofynnodd mam, “Gan ein bod ni’n dweud y gwir, hoffet ti wybod y gwir i gyd?”

Ro’n i’n 33 ar y pryd, a ro’n i’n gwybod, oherwydd y ffordd wnaeth hi ofyn hynny imi, y gallai hynny ond golygu un peth.

Ro’n i wedi rasio draw i'w thŷ i ymyrryd yn yr hyn roeddwn i'n gwybod na allai fod yn wir. Roedd fy mrawd, George, wedi derbyn llythyr yn dweud ei fod wedi ei fabwysiadu. Ro’n i wedi cerdded yn nrws ffrynt Mam yn union fel roedd George yn rhoi’r llythyr hwnnw iddi.

Wna i byth anghofio ei dwylo yn dechrau ysgwyd. Yr ofn a lanwodd ei llygaid. Colli geiriau nad oedd ganddi erioed. Ac yna'r dagrau a ddechreuodd lifo'n ddiddiwedd, gan bawb.

Pan ddaeth hi o hyd i'w llais, ro’n i'n gallu clywed ei chalon yn torri. “Mae'n ddrwg gen i dy fod ti wedi ffeindio allan fel hyn, George. W nes i fyth fwriadu dy frifo. Roedd dy dad yn dy garu di. Dw i'n dy garu di. Allwn i ddim bod wedi dy garu mwy na phe bawn wedi rhoi genedigaeth i ti fy hun.”

Dw i’n cofio mynd i mewn i’r gegin, gan lenwi’r bwrdd â bwyd, oherwydd un ffordd mae teuluoedd Groegaidd yn datrys pob math o broblem: dŷn ni’n bwyta.

Pan o’n i newydd gyrraedd am y baklava gofynnodd Mam y cwestiwn fyddai’n datgelu’r cwbl i mi, a rhywsut, ro’n i'n gwybod. Dw i jyst yn gwybod. Wrth chwilio ei llygaid am yr ateb, a hithau eisiau iddo fod yn unrhyw beth heblaw’r hyn yr o’n i’n ei feddwl, cefais fy hun yn ei ddweud drosti: “Cefais fy mabwysiadu hefyd.

Pan oeddwn wedi cyrraedd am y baklava y gofynnodd mam y cwestiwn i ddweud y cwbl i mi, a rhywsut, ro’n i'n gwybod. Ro’n i jyst yn gwybod. Wrth chwilio ei llygaid am yr ateb, a hithau eisiau iddo fod yn unrhyw beth heblaw’r hyn yr oeddwn yn ei feddwl, cefais fy hun yn ei ddweud drosti: “Cefais fy mabwysiadu hefyd.”

Funudau’n ddiweddarach, dwedodd y geiriau hyfrytaf wrtho i. Geiriau a ddaeth â'r fath iachâd. Fe wnaeth hi hyd yn oed eu hailadrodd i mi yn yr wythnosau canlynol…

“Ro’n i’n dy garu di cyn hyd yn oed dy adnabod di.”

Hyd heddiw, dw i'n cofio a thrysori'r geiriau hynny. Geiriau o galon mam oedden nhw oedd yn gadael i mi wybod ei bod hi wedi hiraethu amdanaf, fy eisiau, a'm dewis i, hyd yn oed cyn iddi erioed osod llygaid arna i.

Pan fyddaf yn meddwl am y geiriau hynny, alla i ddim helpu ond clywed calon fy Nhad Nefol, yr un sydd bob amser wedi fy eisiau i hefyd. Yr un a'm dewisodd ymhell cyn fy mam wneud erioed.

Yr un un a ddewisodd ti.

GWEDDI

Dduw, diolch iti am fy newis yn ferch i ti, ac fel rhywun i gario dy fab, Iesu, i’m byd. Rwy'n gweddïo ar i chi roi'r cryfder a'r dewrder i mi nid yn unig i weld eraill fel rwyt ti'n eu gweld, ond i gamu allan mewn ffydd a'u cyrraedd gyda’th gariad. I'w helpu i deimlo eu bod wedi'u dewis gennyt ti. Amen.

Addaswyd o 20/20: Seen.Chosen.Sent gan Christine Caine. Hawlfraint © 2019 gan Christine Caine. Ailargraffwyd gyda chaniatâd Lifeway Women. Cedwir pob hawl.

Diwrnod 1Diwrnod 3

Am y Cynllun hwn

20/20: Seen. Chosen. Sent. By Christine Caine

Fedri di ddychmygu teimlo cael dy weld cymaint gan Dduw fel na elli di helpu ond gweld eraill? Elli di ddychmygu dy fywyd cyffredin bob dydd, yn cael effaith dragwyddol sylweddol? Bydd y defosiwn 7 diwrnod hwn gan Christine Caine yn dy helpu i ddarganfod sut mae Duw wedi dy weld, dy ddewis, a'th anfon i weld eraill ac i'w helpu i deimlo eu bod wedi'u gweld fel y mae Duw yn eu gweld - gyda golwg 20/20.

More

Hoffem ddiolch i Christine Caine - A21 Propel CCM am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://www.christinecaine.com/2020study