20/20 Gwelwyd. Dewiswyd. Anfonwyd. Gan Christine Caine Sampl
RWYT TI’N HALEN A GOLEUNI
“Chi ydy halen y ddaear. Ond pan mae'r halen wedi colli ei flas pa obaith sydd i'w wneud yn hallt eto? Dydy e'n dda i ddim ond i'w daflu i ffwrdd a'i sathru dan draed. Chi ydy'r golau sydd yn y byd. Mae'n amhosib cuddio dinas sydd wedi'i hadeiladu ar ben bryn. A does neb yn goleuo lamp i'w gosod o dan fowlen! Na, dych chi'n gosod lamp ar fwrdd er mwyn iddi roi golau i bawb yn y tŷ. - Mathew 5:13-15 beibl.net
Ro’n i'n fyfyriwr coleg ifanc pan wnes i ffrind a oedd i bob golwg yn meddu ar bopeth - harddwch, graddau, cyflawniadau, cyfoeth. Popeth Ro’n i'n teimlo nad oedd gen i. Eto i gyd, wnaethon ni dyfu’n agos. Felly, pan ddiflannodd hi am dri diwrnod ac roedd heb ateb fy ngalwadau, yn naturiol fe wnes i ddechrau poeni. Pan ddaeth hi i’r golwg ar y trydydd diwrnod, wnes i ffeindio ei bod wedi bod mewn parti lle'r oedd y rhan fwyaf wedi cymryd cyffuriau i aros yn effro. Fe ddwedodd hi, “Roedd yna gymaint o gariad. Roedd yna gymaint o lawenydd. Roedd yna gymaint o heddwch fel fy mod i wedi fy syfrdanu. A chyda hynny daeth â blodyn bach i’r golwg “Wnes i fwynhau e gymaint, Chris, fel mod i ddim am i ti golli allan ar y profiad ges i, felly wnes i safio hanner tabled i ti.”Fe wnes i wrthod ei chynnig yn garedig, ond cefais fy ysgwyd. Dim ond cwpl o flynyddoedd ynghynt ro’n i wedi rhoi fy mywyd yn llawn i Iesu, ac ni allwn helpu ond meddwl, Mae'r ferch hon yn dy garu di gymaint, fel nad oedd hi am i ti golli allan ar y cariad a llawenydd a heddwch a ddaeth o gyffur. Ac mae gen ti, Christine, Ysbryd Glân Duw yn byw y tu mewn i ti, sy'n ffynhonnell cariad a llawenydd a heddwch. Christine, roedd gormod o gywilydd arnat ti i siarad am Dduw, oherwydd roeddet ti'n meddwl nad oes ei angen e arni hi, a Duw yw'r un peth sydd ei angen arni fwyaf. "
Ar ôl hynny, wnes i grio. Fe wnes i addo i Dduw na fyddwn i byth yn caniatáu i angerdd neb am unrhyw beth - cyffuriau, arian, llwyddiant neu hyd yn oed achos - fod yn fwy angerddol na fy nghariad tuag ato a'm parodrwydd i fynd i ddweud wrth bobl pwy yw e.
Pam ein bod yn ei chael yn hawdd adnabod pobl y mae eu bywydau wedi'u drysu gymaint fel y rhai y mae angen dod o hyd iddyn nhw ond sy'n methu â chydnabod bod hyd yn oed y rhai sy'n ymddangos fel pe bai ganddyn nhw’r cyfan gyda'i gilydd ar goll hefyd? Onid ydy Duw eisiau i ni ddeall bod pobl goll yn edrych fel pawb arall?
Ers y diwrnod hwnnw, dydw i erioed wedi anghofio bod yna wacter siâp Duw ym mhob calon ddynol na all ond Iesu ei lenwi, ac mae angen i bawb glywed amdano.
GWEDDI
Dduw, helpa fi i fod yn halen a golau ym mhob man dw i’n mynd at bawb dw i’n cwrdd â nhw. Helpa fi i edrych ac i weld...y rhai sydd wedi torri a'r rhai sydd ar goll... waeth sut maen nhw'n ymddangos. Helpa fi i deimlo tosturi a dewrder i estyn allan a thynnu rhywun yn agos heddiw. Yn enw Iesu, gweddïaf, Amen.
Addaswyd o 20/20: Seen.Chosen.Sent gan Christine Caine. Hawlfraint © 2019 gan Christine Caine. Ailargraffwyd gyda chaniatâd Lifeway Women. Cedwir pob hawl.
Am y Cynllun hwn
Fedri di ddychmygu teimlo cael dy weld cymaint gan Dduw fel na elli di helpu ond gweld eraill? Elli di ddychmygu dy fywyd cyffredin bob dydd, yn cael effaith dragwyddol sylweddol? Bydd y defosiwn 7 diwrnod hwn gan Christine Caine yn dy helpu i ddarganfod sut mae Duw wedi dy weld, dy ddewis, a'th anfon i weld eraill ac i'w helpu i deimlo eu bod wedi'u gweld fel y mae Duw yn eu gweld - gyda golwg 20/20.
More