Mynd ar ôl y ForonenSampl
Mynd ar ôl Duw
I ble wyt ti'n mynd?
Dydy e ddim o bwys i ble dŷn ni'n mynd ar unrhyw ennyd benodol, ond mae'n helpu i gael feddwl am ben draw'r daith.
Y broblem gyda'r byd o'n cwmpas. fodd bynnag, yw ein bod wedi ein peledu gan bethau y dylem ei wneud. Dylem fynd ar ôl enwogrwydd a chymeradwyaeth a phob peth arall. Gyda gymaint o lefydd ar ben draw'r daith yn ein peledu, does dim syndod fod cymaint ohonom wedi ein syfrdanu, ac yn edrych am gyfeiriad mewn bywyd.
Os mai dim ond un pen draw i'r daith allwn fynd amdano ar y tro, beth ddylai pen draw'r dait hwnnw fod?
Mae Hebreaid pennod 12, adnodau 1 i 3 yn gwneud hynny'n glir. Dŷn ni i hoelio ein sylw ar Iesu. Pan fyddwn yn rhedeg tuag ato e, dŷn ni'n ennill nid dim ond e, ond popeth arall dŷn ni ei angen. Talodd y gosb am ein pechodau. Sicrhaodd i ni fywyd tragwyddol. Mae e'n darparu ar ein cyfer bob dydd. Ac mae e'n ein trawsnewid i fod y bobl y bwriadwyd i ni fod.
Ond sut wyt ti'n rhedeg at Grist|? Dylet wneud beth wnaeth e.
Gweddi: Pan roedd Iesu angen adnewyddiad ar ôl treulio dyddiau yn siarad efo'r tyrfaoedd, aeth i chwilio am ei Dad. Pan oedd wedi'i lethu yng Ngardd Gethsemane, galwodd ar ei Dad. Mae gweddi yn cadw cyswllt rhwng ni a Christ.
Pobl. Cawsom ein creu i fod mewn perthynas â phobl eraill. Roedd Iesu wedi'i amgylchynu gan bobl ar hyd yr amser y buodd e yma, yn eu herio a'u hannog mewn ffydd. Byddi di'n debygol o fynd ar ôl beth bynnag mae'r bobl rwyt yn treulio amser gyda nhw yn mynd ar ei ôl. Felly, treulia amser gyda'r pobl sy'n mynd ar ôl Duw.
Gwasanaethu. Daeth Iesu i'r byd i wasanaethu-dwedodd hyn ei hun. Gwnaeth hynny mewn ffyrdd nawr a bach, a gorffennodd ei weinidogaeth gyda'r gwasanaeth eithaf - aberthu ei fywyd drosom. Pan fyddwn yn gwasanaethu'r rhai hynny o'n cwmpas, dŷn ni'n mynd ar ôl Duw drwy wneud beth wnaeth Iesu.
Mynd heb fwyd.Pa un ai oedd Iesu yn mynd heb fwyd yn yr anialwch, neu dreulio amser oddi wreth pobl i gael tawelwch ar ben ei hun, gwyddai Iesu bod rhaid iddo gael llonydd oddi wrth popeth yn ei fywyd, dros dro, i fynd ar ôl Duw. Beth awyt ti'nb allu gael gwaered ohono o'th fywyd i fynd ar ôl Duw?
Y Gair.Achubodd Iesu y blaen ar hyn-fel mae Ioan pennod 1 yn ei ddweud, Crist, yn llythrennol, oedd Duw yn ddyn. Uno'r ffyrdd gorau i adnabod crist yw treulio amser rheolaidd yn darllen, myfyrio ar arweiniad Duw i ni yn y Beibl.
Gweithredu. Pa un o'r rhain a wneid di weithredu arno yn dy fywyd? Sut wnei di ddechrau? Pwy fyddi di'n ei ddweud wrthyn nhw amdano?
Am y Cynllun hwn
Dŷn ni i gyd yn awchus am rywbeth. Fel arfer rhywbeth sydd tu hwnt i'n cyrraedd - gwell job, cartref mwy cysurus, y teulu perffaith, cymeradwyaeth eraill. onid yw hyn yn feichus? Oes yna well ffordd? I ddarganfod os oes edrych ar hwn sef Cynllun Beiblaidd Newydd gan Life.Church, sydd yn cynnwys cyfres negeseuon y Parch. Craig Groeschel, Chasing Carrots.
More