Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mynd ar ôl y ForonenSampl

Chasing Carrots

DYDD 6 O 7

Mynd ar ôl Cysur

Pa un ai rydym ni dan straen, wedi ein brifo, blinedig, unig, neu wedi diflasu, dŷn ni, bawb, yn mynd ar ôl cysur. Pwy sydd yna heb orwario, gorfwyta, gorgysgu. goryfed, a gor-amcangyfrif allu unrhyw beth i gynnig cysur fydd yn para?

Mae'r i'r gair "cysur" ei hanes cymhleth ei hun. Mae'r gair Saesneg "comfort" yn rhannu'n ddau yn Lladin, com-, sy'n golygu "ar y cyd" a fortis, sy'n golygu "cryf neu gryfder." Yn ddiweddarach trodd y gair Lladin confortare i olygu "i gryfhau llawe." Mewn amser ychwanegodd hen air Ffrengig, conforter eiriau fel "cysur" a "help" i'r diffiniad. Yn y bedwaredd ganrif a'r ddeg, diffinwyd gair arall Ffrengig, conforten fel "i gysuro." Yn olaf, erbyn y ail ganrif a'r bymtheg dechreuodd y fersiwn Saesneg olygu y synnwyr o esmwythder corfforol dŷn ni'n ei ddeall heddiw.

Pam fod hyn o unrhyw bwys? Mewn tua "mileniwm" aeth y gair "cysur" o olygu "cryfder ar y cyd" i olygu "rhwystwr poen."

Wyt ti'n gweld Duw fel dy gryfder, gyda ti yn y boen, neu fel rhwystwr rhag poen?

Soniodd y proffwyd Eseia am Feseia fyddai'n dod i'r byd, yn cael ei anafu am ein bod ni wedi gwrthryfela a'i gosbi i wneud pethau'n iawn i ni. Os mai hanfod ein ffydd yw dilyn yn ôl troed Iesu, gad i ni ystyried ei ymateb i boen yn 1 Pedr, pennod 2, adnod 21 i 25, ble welwn Waredwr yn derbyn poen yn dawel er gwaethaf gwneud dim i'w haeddu. Dydy Iesu ddim yn ceisio osgoi poen na chwilio am fwch dihangol; mae'n dod i'n byd ni a chymryd ein poen ni arno'i hun.

Mae Iesu yn gryfder ar y cyd. Yna, cyn mynd yn ôl at ei Dad, mae'n addo i ni yr Ysbryd Glân - "Cysurwr" - nid yn unig gyda ni ond ynom ni." Mae hwn yn rywbeth sy'n werth i fynd ar ei ôl.

Felly, gad i ni beidio mynd ar ôl golwg y byd ar gysur. Yn lle, gad i ni fynd ar ôl cysur gan yr Ysbryd Glân, gan wybod nad yw'ngolygu bywyd heb boen, ond yn hytrach cysur ynghanol poen.

Gweddïa:dduw, dw i ddim yn hoffi bod yn anghyfforddus, on dw i'n dy garu di. Plîs newidia fy nealltwriaeth o dy gysur, a helpa fi i'w deimlo. Ysbryd Glân, dangos imi sut mae dy "gryder ar y cyd" gyda fi, ac ynddo i. Iesu, diolch am gymryd fy mhechod ar y groes. Amen.

Diwrnod 5Diwrnod 7

Am y Cynllun hwn

Chasing Carrots

Dŷn ni i gyd yn awchus am rywbeth. Fel arfer rhywbeth sydd tu hwnt i'n cyrraedd - gwell job, cartref mwy cysurus, y teulu perffaith, cymeradwyaeth eraill. onid yw hyn yn feichus? Oes yna well ffordd? I ddarganfod os oes edrych ar hwn sef Cynllun Beiblaidd Newydd gan Life.Church, sydd yn cynnwys cyfres negeseuon y Parch. Craig Groeschel, Chasing Carrots.

More

Hoffem ddiolch i Life Church am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.life.church/