Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mynd ar ôl y ForonenSampl

Chasing Carrots

DYDD 3 O 7

Mynd ar ôl Cymeradwyaeth

Y pwynt ydy: Dylai cymeradwyaeth fod yn rywbeth rwyt yn ei ddymuno. Aros am funud - nid abwyd i'th fachu yw hyn a wedyn newid barn.

Dŷn ni wedi ein cyflyru mewn bywyd i chwilio am gymeradwyaeth gan bobl. Pan yn blant, mae oedolion yn ein canmol pan fyddwn yn gwneud pethau da. Dŷn ni'n mwynhau eu canmoliaeth felly dŷn ni'n dal ati i wneud pethau da. Yn ysgol, dŷn ni'n astudio'n galed gan i gael canmoliaeth athrawon, neu'n brolio wrth ein cyfoedion. Unwaith y byddwn mewn gwaith, dŷn ni'n gweithio oriau hir i geisio creu argraff ar ein cyflogwyr, neu dŷn ni'n prynu tai neu geir mwy i ennill parch ein ffrindiau neu deulu.

Ond.

Oeddet ti'n gwybod fod yna "ond" yn mynd i ddod.

Yn hwyr na hwyrach bydd un o'r pobl hynny yn methu wrth beidio rhoi canmoliaeth i ti. Fyddi di byth yn llwyddo i gael y canmoliaeth rwyt ei angen, gan bobl. Dim ond Duw sy'n gallu dy ganmol i'r graddau rwyt ei angen. A ti'n gwybod be'? Does dim rhaid i ti wneud fawr ddim byd i ennill ei gymeradwyaeth. Yr ennyd y byddi'n derbyn Crist fel dy Waredwr a'i wneud yn Arglwydd ar dy fywyd, mae Duw wedi dy gymeradwyo. Dyna fe. O'r pwynt yna'n 'mlaen rwyt yn blentyn i Dduw.

Mwy na thebyg rwyt wedi clywed hyn i gyd o'r blaen. Heddiw, gad i ti dy hun ei deimlo. Mae gennyt y cwbl o ganmoliaeth y byddi di fyth ei angen - canmoliaeth na fyth yn pallu na methu. Mae dy werth yn sicr, a gelli orffwys yng nghymeradwyaeth Duw dy Dad.

Ystyria: Pwy neu beth wyt ti'n chwilio am gymeradwyaeth ar hyn o bryd? Sut byddai dy berthynas ag eraill yn newid tase ti'nb gadael i Dduw gwrdd â'r angen hwnnw?

Diwrnod 2Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

Chasing Carrots

Dŷn ni i gyd yn awchus am rywbeth. Fel arfer rhywbeth sydd tu hwnt i'n cyrraedd - gwell job, cartref mwy cysurus, y teulu perffaith, cymeradwyaeth eraill. onid yw hyn yn feichus? Oes yna well ffordd? I ddarganfod os oes edrych ar hwn sef Cynllun Beiblaidd Newydd gan Life.Church, sydd yn cynnwys cyfres negeseuon y Parch. Craig Groeschel, Chasing Carrots.

More

Hoffem ddiolch i Life Church am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.life.church/