Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mynd ar ôl y ForonenSampl

Chasing Carrots

DYDD 4 O 7

Mynd ar ôl Perffeithrwydd

"Ond rhaid i chi fod yn berffaith, yn union fel mae'ch Tad nefol yn berffaith." Mathew pennod 5, adnod 48

Dydy hynny ddim yn broblem siawns? Does dim ond rhaid i ti fod yn berffaith-yn sanctaidd, cyfiawn fel mae Duw y bydysawd yn berffaith.

Ddim yn broblem siawns?

Ie, nid gymaint felly.

Tase ti am wneud dy hun yn berffaith, ble fyddet ti'n dechrau hyd yn oed? Mae Duw yn berffaith achos does dim pechod, na gwneud dim o'i le, yn bodoli ynddo e. Dŷn ni ddim yn sôn am syniad y byd o berffaith yma-dillad perffaith, tŷ perffaith, cymar perffaith. Yr hyn dŷn ni'n siarad amdano gymaint mwy na hynny. Byddai'n rhaid it ifod yn ddi-bechod. dim dweud celwydd, dim melltithio, dim arthio ar y plant neu fenthyg cyfrinair Netflix dy ffrind.

Gad i ni gymryd arnom dy fod yn dweud, "Siŵr iawn galla' i wneud hynny." A ti'n llwyddo. Ti'n bihafio. Ti'n cadw i'r cyflymder cyfreithiol ar y f fordd. Ti'n rhoi i'r tlawd. Ti'n talu am Netflix dy hun. A ti'n gwneud hyn am ddyddiau, wythnosau, misoedd, ac yna blynyddoedd.

Ond fyddi di fyth yn berffaith.

Wyt ti'n gweld mae yna broblem - dy bechodau blaenorol. Fel mae Iago pennod adnod yn dweud - "Mae torri un o orchmynion Duw yr un fath â thorri'r Gyfraith i gyd."

Felly, i ble wyt ti'n mynd o fan hyn?

Yn Mathew 19 gwelwn ddyn ifanc yn ceisio bod yn well. Gofynnodd i iesu beth ddylai wneud i gael bywyd tragwyddol. Dwedodd Iesu wrtho i ufuddhau i'r prof orchmynion. Dwedodd y dyn ifanc ei fod wedi cadw pob un o'r prof orchmynion. Yna atebodd Iesu ef, “Os wyt ti wir am gyrraedd y nod, dos, a gwertha dy eiddo i gyd a rho'r arian i bobl dlawd. Wedyn cei drysor yn y nefoedd. Yna tyrd, dilyn fi.” Pan glywodd y dyn ifanc hyn, cerddodd i ffwrdd yn siomedig, am ei fod yn ddyn cyfoethog iawn.

Doedd Iesu ddim yn dweud wrth y dyn ifanc fod perffeithrwydd yn gynllun dau gam. Yn gyntaf, ufuddha i'r gorchmynion ac yn ail rho dy eiddo i gyd i ffwrdd. Roedd Iesu yn dweud fod y llwybr i berffeithrwydd yn dechrau gyda cael gwared ar beth bynnag oedd yn debygol o gadw person rhag ei ddilyn e.

Ond perffaith? Sut allai unrhyw un fod yn berffaith? Nid ffordd y byd i fod yn berffaith hyw hyn. Mae e gymaint gwell. Pan fyddi'n dewis dilyn Iesu, mae e'n dy waredu o'th bechodau ac amherffeithrwydd drwy ei farwolaeth ar y groes. Ac yng ngolwg Duw, rwyt yn dod yr un mor berffaith â Christ ei hun.

Gwewddïa:Dduw, diolch am aberth perffaith dy Fab. Helpa fi i gael gwared ar beth bynnag sy'n fy rhwystro rhag dilyn Crist. Yn enw Iesu, amen.

Diwrnod 3Diwrnod 5

Am y Cynllun hwn

Chasing Carrots

Dŷn ni i gyd yn awchus am rywbeth. Fel arfer rhywbeth sydd tu hwnt i'n cyrraedd - gwell job, cartref mwy cysurus, y teulu perffaith, cymeradwyaeth eraill. onid yw hyn yn feichus? Oes yna well ffordd? I ddarganfod os oes edrych ar hwn sef Cynllun Beiblaidd Newydd gan Life.Church, sydd yn cynnwys cyfres negeseuon y Parch. Craig Groeschel, Chasing Carrots.

More

Hoffem ddiolch i Life Church am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.life.church/