Mynd ar ôl y ForonenSampl
Mae'r gair Groeg am "enwogrwydd" (phēmē,wedi'i ynganu fel fā'-mā- ("fame" yn Saesneg) yn cael ei ddefnyddio ddwywaith yn unig yn y Testament Newydd. Yn aml mae'n cael ei ddiffinio fel areithio, rhoi adroddiad, neu newyddion. Mae'n cael ei ddefnyddio yn Luc, pennod 4, adnod 14 yn fersiwn KJV fel hyn:
And Jesus returned in the power of the Spirit into Galilee: and there went out a fame of him through all the region round about.
Yn Gymraeg yn y tri fersiwn, Beibl William Morgan, Beibl Cymraeg Newydd a beibl.net y gair sy'n cael ei ddefnyddio ydy "sôn". "A'r Iesu a ddychwelodd trwy nerth yr Ysbryd i Galilea a sôn a aeth amdano ef trwy'r holl fro oddi amgylch." (BWM)O ble roedd Iesu'n dychwelyd achosodd gymaint o sôn amdano drwy'r ardal gyfan? Gad i ni weld y cyd-destun. Yn Luc pennod 1, dŷn ni'n clywed y dweud ymlaen llaw am ei eni. Yn Luc pennod 2, mae e wedi'i eni ac yn tyfu'n fachgen, Yn Luc pennod 3, mae e'n cael ei fedyddio. Yna, yn adnodau cyntaf Luc pennod 4 mae e'n mynd heb fwyd a chael ei demtio gan Satan yn yr anialwch. Mae hyn yn dod â ni nôl i Luc pennod 4, adnod 14.
Aeth Iesu yn ôl i Galilea yn llawn o nerth yr Ysbryd, ac aeth y sôn amdano ar led drwy'r ardal gyfan. Roedd yn dysgu yn y synagogau, ac yn cael ei ganmol gan bawb. beibl.net
Yn narlleniad heddiw, byddi'n edrych ar y stori gyfan am Iesu yn cael ei demtio yn yr anialwch. Roedd Iesu yn yr anialwch am 40 niwrnod a doeth e ddim yn bwyta o gwbl. Ynghanol hyn i gyd cafodd Iesu ei demtio gyda'r math anghywir o fwyd (Luc pennod 4, adnodau 3 i 4), enwogrwydd (Luc pennod 4, adnodau 5 i 8), a ffydd (Luc pennod 4, adnodau 9 i 12). Bob un tro, gwrthododd Iesu y demtasiwn ac ymateb gyda Gair Duw.
Dydy'r enwogrwydd yn Luc pennod 4 adnod 14 ddim wastad yr hyn dŷn ni mynd ar ei ôl yn nag ydi? Dŷn ni';n dueddol o fynd ar ôl y math mae Satan yn ei gynnig yn yr anialwch. Cyflenwad hen foddhad (Luc pennod 4, adnodau 3 i 4), ysblander heb aberth (Luc pennod 4, adnodau 5 i 8, a iachawdwriaeth heb ildiad (Luc pennod 4 adnodau 9 i 12)
Meddylia am y gydnabyddiaeth yn y gwaith, yr hoffi ar y cyfryngau cymdeithasol, a'r canmoliaeth gan eraill. Mae'n teimlo'n dda am ennyd, ond yna rwyt ti'n awchu am fwy. Os dŷn ni'n onest, mae pob un ohonon ni wedi profi cyfnodau o fod eisiau cael sylw neu ein hadnabod am rywbeth. Yn yr un modd mae Satan yn cynnig arian, dylanwad, a grym i Iesu. Cafodd Iesu ei demtio'n union fel ni ond wnaeth e ddim cymryd yr abwyd.
Bydden yn darllen hefyd am demtasiwn olaf Satan i Iesu - gofyn iddo neidio oddi ar ben adeilad fel bod duw yn ei arbed. Wyt ti wedi ceisio gweddïo gweddi sy'n herio Duw i wneud pethau o'th blaid, yn dy amser di? Dydy hynny ddim yn anrhydeddus iawn i Dduw - sy'n dangos pam fod Iesu'n ymateb drwy ddweud na ddylem rhoi Duw ar brawf fel yna.
Mae yna iaith sydd wedi'i hail-lunio o'r enw PIE—Proto-Indo-European - fersiwn anysgrifenedig hynafol o'r Groeg. Gwraidd y gair o PIE ddaeth yn phēmē,"i lewyrchu" ac "i siarad". Felly gad i ni fynd yn ôl i'n gwreiddiau ni. Dŷn ni ddim wedi ein gwneud i fod yn Olau - Iesu yw hwnnw - ond dŷn ni wedi ei ngalw i lewyrchu ei olau. Nid ni yw'r Gair - mae Efengyl Ioan yn dweud mai iesu yw hynny hefyd - ond dŷn ni wedi ein galw "i siarad" ei air i'r holl fyd.
Mae mynd ar ôl enwogrwydd fel mynd ar ôl rhywbeth sy'n perthyn i Dduw, yn lle mynd ar ôl duw ei hun. Dyna'r demtasiwn hynaf sydd yn bodoli. Paid syrthio i'r trap. Y tro nesaf y byddi'n wynebu'r temtasiwn o enwogrwydd, gwna beth wnaeth Iesu. Llewyrcha olau Duw drwy siarad ei eiriau. A phan wnei di hyn bydd Luc pennod 4, adnod 14 yn digwydd. Mae ei enwogrwydd yn cael ei rannu.
men.Gweddïa:Dduw, sut mae trio cael fy hoffi yn fy rhwystro rhag llewyrchu dy olau? Dw i eisiau mynd ar dy ôl gyda phopeth sydd ynof i. Amen
Am y Cynllun hwn
Dŷn ni i gyd yn awchus am rywbeth. Fel arfer rhywbeth sydd tu hwnt i'n cyrraedd - gwell job, cartref mwy cysurus, y teulu perffaith, cymeradwyaeth eraill. onid yw hyn yn feichus? Oes yna well ffordd? I ddarganfod os oes edrych ar hwn sef Cynllun Beiblaidd Newydd gan Life.Church, sydd yn cynnwys cyfres negeseuon y Parch. Craig Groeschel, Chasing Carrots.
More