Mynd ar ôl y ForonenSampl
Mynd ar ôl Cyflawni
Wrth feddwl am frenhinoedd yn y Beibl, does neb gyflawnodd gymaint â Solomon. Fe wnaeth Israel ffynnu dan ei frenhinaiueth. Goruchwyliodd dros adeiladu teml Dduw. Adeiladodd balas iddo'i hun. Byddai arweinwyr yn teithio pellteroedd mawr i weld ei gyfoeth, gan ddod gyda nhw, anrhegion o aur a gemau. Gallai ateb unrhyw gwestiwn roddwyd iddo. Gallai gael unrhyw ferch y mynnai. Roedd wedi'i fendithio gyda popeth fyddai rhywun fyth ei angen mewn bywyd.
Pe dylai unrhyw un fod wedi bod yn hapus gyda'r hyn gyflawnodd yn ei fywyd, Solomon fyddai hwnnw. Ond yn llyfr Y Pregethwr, pennod 2 mae Solomon yn dweud i'r gwrthwyneb. Mae'n llythrennol ddwedu, "Roeddwn i'n casáu'r ffaith fy mod i wedi gweithio mor galed i gael pethau ar y ddaear yma..." oherwydd meddai, "rhaid i mi adael y cwbl i'r un fyddai'n dod ar fy ôl i."
Sylweddolodd Solomon. fedrwn ni ddim mynd â dim hefo ni i'r bywyd nesaf. Mae ein dyrchafiadau, tai, gwobrau, ceir a gwyliau yn aros yma.
Wyt ti'n ystyried beth sydd yn cyfrif mewn bywyd?
Fe wnaeth Solomon ddarganfod ateb i'r cwestiwn hynny. Ar ddiwedd Lyfr Y Pregethwr mae'r cyfan yn cael ei ddweud, "Addola Dduw a gwna beth mae e'n ddweud! Dyna beth ddylai pawb ei wneud."
Ar yr olwg gyntaf dydy hyn ddim yn edrych fel y peth mwyaf ysbrydoledig ond cymer olwg arall. Mae Solomon yn dweud mai dyma yw'r pethau y dylem geisio eu cyflawni mewn bywyd: ofni Duw - sy'n golygu ei garu, ei barchu, a gwneud beth mae e'n ei ofyn.
Dŷn ni wedi arfer efo'r byd yn dweud, "Rheda! Paid stopio. Wyt ti'n gweld y pethau drud 'ma? Wyt ti'n gweld yr anrhydeddau yma? Mae mil; oedd o bobl eu heisiau, ond paid gadael i hynny dy stopio. Brwydra amdanyn nhw! Dos! Beth arall wyt ti'n ei wneud efo dy fywyd? Mae bywyd yn gystadleuaeth., a dim ond y rhai gorau fydd yn llwyddo."
Ond mae Gair Duw yn dweud, "Cara Duw, Gwna ddaioni"
Meddylia mor rhwydd i'w hyn i bobl ei gael. Dydy o ddim o bwys os wyt ti'n sengl, neu'n briod. Cyfoethog neu dlawd. Ifanc neu hen. Iach neu dal. Cara Duw a gwna ddaioni.
Ystyria: Beth fyddai'n newid am heddiw pe bai dy nod ym mhob sefyllfa oedd i garu Duw a gwneud daioni? Sut fyddi di'n cyflawni'r nod hwn?
Am y Cynllun hwn
Dŷn ni i gyd yn awchus am rywbeth. Fel arfer rhywbeth sydd tu hwnt i'n cyrraedd - gwell job, cartref mwy cysurus, y teulu perffaith, cymeradwyaeth eraill. onid yw hyn yn feichus? Oes yna well ffordd? I ddarganfod os oes edrych ar hwn sef Cynllun Beiblaidd Newydd gan Life.Church, sydd yn cynnwys cyfres negeseuon y Parch. Craig Groeschel, Chasing Carrots.
More