Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Taith Di-bryderSampl

Travel Light

DYDD 7 O 7

Gollwng Gafael?

Ond i ddweud y gwir, pam na wnawn ni gario 'mlaen i fyw fel dŷn ni wedi bod yn byw? Pam ddylen ni ollwng gafael ar yr holl bethau hyn?

Oherwydd cawsom ein gollwng yn rhydd i fyw'n rhydd.

Oherwydd mae priodas yn ymrwymiad gydol oes.

Oherwydd bydd llawer o'n plant yn dod yn riewni eu hunain.

Oherwydd y Creawdwr popeth sy'n ein harwain.

Oherwydd does dim ohono'n perthyn i ni.

Oherwydd mae rhywun arall yn dioddef ac yn cael ei iachau hefyd.

Oherwydd iddo faddau i ni gyntaf

Oherwydd mae cywilydd yn ffug.

Oherwydd mae gynnon ni ddigon.

Oherwydd mae e'n ddigon.

Oherwydd mae'n gymaint mwy o hwyl.

Oherwydd bydd hi gymaint haws derbyn yr antur nesaf y bydd Duw'n ein galw ni arno.

Oherwydd mae tragwyddoldeb yn daith cerdded hir.

Oherwydd bod Iesu wedi'i eni.

Oherwydd bu farw Iesu i hyn.

Oherwydd cafodd Iesu ei atgyfodi a gofynnodd i ni rannu ei Newyddion Da gyda phawb!

Jason- wedi gollwng gafael oherwydd - Iesu

Gweddia:O'r gorau, dduw, gad i ni wneud hyn. A wnei di, os gweli di'n dda, roi'r nerth imi ddal ati i ollwng gafael. Dw i eisiau i ti fod yn arweinydd ar fy mywyd. Dw i'n trystio ti efo'r cwbl. Amen.

Mwy o gynnwys ar ollwng gafael ar straen a thrystio Duw.

Diwrnod 6

Am y Cynllun hwn

Travel Light

Mewn tymor prysur adeg y Nadolig mae'r rhan fwyaf ohonom yn teimlo straen a phryder o fewn perthynas f=deuluol, penderfyniadau brysiog, a disgwyliadau siomedig. Felly dos yn dy flaen. Pwylla a dechrau'r cynllun Life.Church hwn a sylweddola fod y pwysau dŷn ni'n ei deimlo ddim tr hyn ofynnodd Duw i ni ei gario. Beth am beidio pryderu? Gad i ni fynd ar daith di-bryder.

More

Hoffem ddiolch i Life Church am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.life.church/