Taith Di-bryderSampl

Gollwng gafael ar Reolaeth
Rai misoedd yn ôl ro'n i'n dod i ben gyda chyfnod o brofiad gwaith yn fy eglwys. Roedd yn anhygoel, ond doedd gen i ddim syniad beth oedd nesaf. Cadwais ati i ofyn (ac weithiau dweud) i Dduw beth oedd nesaf, ac roedd yn ymddangos fel ei fod e'n ateb bob tro, ond doedd ei ateb ddim yn gwneud synnwyr imi. Felly, tybiais mod i heb glywed yn iawn.
Ro'n i'n colli rheolaeth ar beth ro'n i eisiau. Doedd Duw ddim yn dilyn fy nghynllun bywyd i!
Dw i'n cael fy atgoffa o fam Iesu. Fedri di ddychmygu? Chafodd hi ddim dewis bod yn ferch ifanc di-briod beichiog. Doedd hi ddim yn gallu penderfynu sut byddai ei darpar ŵr yn ymateb wrth wybod nad e oedd y tad corfforol. Doedd ganddi ddim rheolaeth ar ymateb eraill, a dw i'n siŵr bod yna sawl barn.
Yn y diwedd wnes i ollwng gafael, nad oedd gen i go iawn, ar fy nyfodol a rhoi fy nghynlluniau o flaen Duw gyda dwylo agored. Rhywbeth yn debyg i Mair pan ddwedodd - "gad i beth rwyt wedi'i ddweud ddod yn wir."
Ddylwn i ddim fod wedi synnu. Wnaeth Duw ddim newid ei ateb. Daliodd ati i'm harwain i ddinas newydd ble doedd gen i ddim gwaith, na theulu, dim arweiniad, ac unlle i fyw.
Gwnaeth Mair a Joseff daith tebyg i'r Aifft, er ro'n nhw'n dianc i amddiffyn bywyd eu plentyn, oedd hefyd yn unig Fab i Dduw.
Ro'n i mor ddryslyd, ond dechreuais gymryd camau tuag at ufuddhau. eto ddylwn i ddim fod wedi synnu, ond dois o hyd i le i fyw, rhai i rannu tŷ, gwaith, a nawr dw i'n arweinydd gwirfoddol mewn eglwys.
Weithiodd pethau allan i Mair, Joseff, a Iesu hefyd!
Pa un ai os mai lleoliad, gyrfa, arian, bod yn riant, perthnasoedd, neu hyd yn oed yr hobïau dw i'n fwynhau - pan dw i mewn rheolaeth, dydy'r darnau ddim cweit yn disgyn i'w lle.
Daliais ati i drio troi a throsi a gwthio'r hyn ro'n i yn ble ro'n i eisiau, ond heb unrhyw lwyddiant. Duw, ar y llaw arall, oedd â'r golwg gorau ar bethau. Dw i'n ei drystio e gyda'r darnau o hyn ymlaen. Yn gollwng gafael.
Kaelyn, ddim mewn rheolaeth
Ystyria:Beth wyt ti dal gafael fel gelain iddo? Beth sydd arnat ofn ei golli? Beth sy'n rhan o'th fywyd ble nad yw atebion Duw'n gwneud synnwyr i ti? Beth yw dy gam cyntaf tuag at ollwng gafael ar reolaeth?
Am y Cynllun hwn

Mewn tymor prysur adeg y Nadolig mae'r rhan fwyaf ohonom yn teimlo straen a phryder o fewn perthynas f=deuluol, penderfyniadau brysiog, a disgwyliadau siomedig. Felly dos yn dy flaen. Pwylla a dechrau'r cynllun Life.Church hwn a sylweddola fod y pwysau dŷn ni'n ei deimlo ddim tr hyn ofynnodd Duw i ni ei gario. Beth am beidio pryderu? Gad i ni fynd ar daith di-bryder.
More