Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Taith Di-bryderSampl

Travel Light

DYDD 2 O 7

Cymryd Cam yn ôl

Falle dy fod di wedi bod yn gymeriad yn y stori hon: Dŷn ni'n pacio'r car, wrth baratoi am daith dros y Nadolig i weld y teulu estynedig. Mae fy ymddygiad efo'r plant a'm gŵr yn hollol afresymol nes mod i'n cyrraedd pen fy nhennyn. Mae fy ngŵr yn troi ata i ac yn dweud, "Beth sy'n mynd 'mlaen?" Mae'n amlwg fy mod i wedi colli arna fi fy hun.

Wrth i'r milltiroedd fynd heibio dw i'n gofyn y cwestiwn amlwg i'm hun yn codi, "Pam dw i'n teimlo gymaint o straen ar adeg mor llawen o'r flwyddyn? Dylai fod yn resymegol. Mae hi'n amser am Iesu, teulu, ffrindiau, bwyd, anrhegion, pêl droed, a coco poeth. Mae hi fod yn doriad oddi wrth y drefn ddyddiol. Beth sy'n bod arna i?

Fethais i gael ateb, felly penderfynais ofyn i Dduw fy helpu i weld beth oedd yn mynd ymlaen. Daeth i'r cof sylwadau a beirniadaethau o flwyddyn yn ôl gan aelod o'r teulu.

Ai dyma oedd tarddiad yr holl bwysau? Cefais gyfle ar y daith i sylweddoli mod i'n credu'r sylwadau a mod i wedi gadael iddyn nhw gadarnhau fy meddyliau ansicr fy hun. Gwylltiais â fi fy hun am beidio sefyll yn erbyn y teimladau, ond hefyd am gario'r pwysau mor hir. Hefyd, fy mod yn gadael i'r peth effeithio ar fy nheulu. Ond roedd gwylltio yn gwneud dim i leddfu'r pwysau.

O'r diwedd, penderfynais weddïo dros y person oedd wedi fy mrifo. Falle wneith o ddim eu newid nhw ond fe wneith e fy newid i, meddyliais. Penderfynais ddechrau eu hannog oherwydd falle bod eu ansicrwydd yn dod o boenau dw i wedi'u teimlo hefyd. Mae'n ffordd wedll i'w dilyn. Ffordd Duw.

Penderfynais faddau hefyd. Dwedodd a dangosodd Iesu ni sut i faddau. Fe wnaeth e faddau imi. Saith deg gwaith saith mewn diwrnod, yw sawl gwaith ddwedodd e y dylen ni faddau i'n gilydd. Mewn geiriau eraill, dylen ni faddau i'n gilydd mor aml ag y mae angen maddeuant.

Mae fan y teulu'n dipyn ysgafnach eleni am nad ydw i'n cario pwysau ofn a phoen. Yn lle, dw i wedi pacio ei heddwch, ei bresenoldeb a'i olau.

Pa berthynas yn dy fywyd sy'n creu pwysau? Sut fyddi di'n gadael Iesu i mewn i leddfu'r pwysau?

Cymra gam yn ôl y Nadolig hwn.

Ystyria: Ar gyfer pwy y byddi di'n gweddïo'n amlaf? Sut elli di faddau iddyn nhw?

Diwrnod 1Diwrnod 3

Am y Cynllun hwn

Travel Light

Mewn tymor prysur adeg y Nadolig mae'r rhan fwyaf ohonom yn teimlo straen a phryder o fewn perthynas f=deuluol, penderfyniadau brysiog, a disgwyliadau siomedig. Felly dos yn dy flaen. Pwylla a dechrau'r cynllun Life.Church hwn a sylweddola fod y pwysau dŷn ni'n ei deimlo ddim tr hyn ofynnodd Duw i ni ei gario. Beth am beidio pryderu? Gad i ni fynd ar daith di-bryder.

More

Hoffem ddiolch i Life Church am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.life.church/