Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Taith Di-bryderSampl

Travel Light

DYDD 6 O 7

Gollwng gafael ar bryder a bod yn edifar

Hei. Paid poeni amdano. Beth bynnag yw e, paid poeni.

Mae'n hawdd iawn i ti ddweud hynny, rwyt ti'n meddwl.

I ddweud y gwir, dydy e ddim yn hawdd. Dw i'n delio efo pryder ac OCD yn ddyddiol. Hyd yn oed ar fy niwrnodau gorau dw i dal yn ymwybodol ohono, yng nghefn fy meddwl yn bygwth fy llethu. Y newyddion da ydy nad hynny yw diwedd y stori.

Wnaeth Duw mo'n creu i fyw mewn ofn. Dw i ddim yn dweud nad oes dim sy'n frawychus mewn bywyd. Dw i ddim yn dweud nad ydw i fyth yn poeni am y potensial am berthnasoedd na ellir eu trwsio, mynd i'r gwellt yn ariannol, cyfleoedd fethwyd, neu mwy o bwysau diangen. Ond gall cario ofn yn ddiddiwedd dy fu i bryderu'n ddiddiwedd am y dyfodol, sy'n aml yn arwain i benderfyniadau sy'n creu edifeirwch am y gorffennol.

Dw i wedi darganfod bod gollwng gafael ar bryder yn gweithio hefyd ar gyfer byw'n rhydd o fod yn edifar.

Dyma'r allwedd: Wnaeth Duw ddim rhoi'r cryfder i ni gario pryder a bod yn edifar, ond gyda chariad rhoddodd ganiatâd i ni droi ato e a gofyn, "Fedri di gario hwn?" Ei ateb bob tro ydy, "A chroeso, dw i wedi bod yn disgwyl iti ofyn." Yna, dŷn ni'n agor ein dwylo a gollwng gafael, drosodd a throsodd a throsodd.

Hefyd, a allwn ni gydnabod ein bod ni'n mynd i wneud camgymeriadau? Bydd pethau drwg yn digwydd. Eto, mae cariad Duw'n curo ofn.

1. Dydy Duw ddim yn eistedd yn rhywle'n ceisio penderfynu sut i ddryllio dy fywyd. A dweud y gwir, y gwrthwyneb am ei fod yn dy garu.

Pan fydd pethau drwg yn digwydd, mae Duw ar ei orau, drwy eu defnyddio nhw i'th siapio'n rywbeth gwell nac o'r blaen, am ei fod yn dy garu.

Pan mae ofn y dyfodol arnat fel bod pethau drwg ar y gorwel, neu falle mae nhw yma'n barod a'th reddf, ar unwaith, yw stopio, disgyn, a phoeni - paid! Yn lle, defnyddia'r cyhyrau wnaeth Duw eu rhoi i ti a throi ato drwy weddïo, darllen yr ysgrythur, a chael sgwrs onest efo pobl rwyt yn eu trystio.

Trïa hyn:Gweddïa'n uchel ar Dduw. Dweda wrtho'n union beth sy'n edifar amdano neu'n dy boeni. Dweda wrth Dduw dy fod yn ei drystio e gyda'r mater. Yna, atgoffa dy hun am wirionedd pwy ydy Duw, a'r hyn mae e wedi dy wneud di i fod.

Dydy, Tommy heb ei ddiffinio gan bryder.

Diwrnod 5Diwrnod 7

Am y Cynllun hwn

Travel Light

Mewn tymor prysur adeg y Nadolig mae'r rhan fwyaf ohonom yn teimlo straen a phryder o fewn perthynas f=deuluol, penderfyniadau brysiog, a disgwyliadau siomedig. Felly dos yn dy flaen. Pwylla a dechrau'r cynllun Life.Church hwn a sylweddola fod y pwysau dŷn ni'n ei deimlo ddim tr hyn ofynnodd Duw i ni ei gario. Beth am beidio pryderu? Gad i ni fynd ar daith di-bryder.

More

Hoffem ddiolch i Life Church am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.life.church/