Taith Di-bryderSampl
Gollwng gafael ar fy nghywilydd
Dw i'n cofio'r peth mor glir. Gofynnais i rywun o'n i â pharch mawr atyn nhw i weddïo drosta i. Pan ofynnwn an beth, y cwbl allwn i ddweud oedd mod i'n teimlo bod yna rhywbeth o'i le gyda fi. Roedd y rhywbeth hwnnw yn ddwfn yn fy mherfedd. ro'n i'n oedolyn, ond doedd gen i mo'r geiriau.
Cywilydd oedd e.
I fod yn eglur, nid euogrwydd oedd e. Mae euogrwydd yn ymwneud â chydnabod dy fod wedi gwneud camgymeriad. Mae cywilydd yn ymwneud â theimlo dy fod yn gamgymeriad. Gwahaniaeth mawr.
Mae bod â chywilydd yn ein argyhoeddi bod rhaid i'r ni go iawn aros yn guddiedig oherwydd does neb eisiau gweld y ni go iawn. Mae'n ein gadael mewn dychryn o wybod mai'r ni go iawn mae Duw'n ei weld. Dyna'n union o'n i'n ei brofi o ganlyniad i bethau ddwedwyd wrtho i a chafodd eu gwneud imi amser maith yn ôl. Roedd y geiriau a gweithredoedd wedi'u plannu'n ddwfn ynddo i a dod yn lens ffug o'm hunanddelwedd.
Dyma beth gwirionedd: Mae Duw'n gweld y ni go iawn, bob tamaid ohonon ni, ac mae'n parhau i fod a'i freichiau ar led mewn cariad atom ni. Pan mae'n edrych ar y rhai ohonom sy'n dilyn Crist, mae e'n gweld meibion a merched di-fai oherwydd bu farw Iesu i gymryd lle ein cywilydd. Dw i, ni, yn gallu gollwn gafael ar gywilydd a chofleidio'r gwerth mae e'n ei roi ynom ni.
Mae hynny'n swnio'n wirioneddol dda, ac mae e, ond dyma beth dw i wedi'i ddysgu. Dydy gollwng gafael ar gywilydd ddim yn weithred "unwaith ac am byth." I mi, mae'r cywilydd yn mynd mewn haenau wrth imi sylweddoli a gwrthod pob celwydd penodol dw i wedi'i gredu. Yna, dw i'n danfon pob tamaid o gywilydd ar daith unffordd yn bell oddi wrtho i, wrth imi ddarganfod a dadbacio gwirioneddau penodol o Air Duw i ddisodli pob celwydd.
Falle nad ydy gollwng gafael ar gywilydd yn sydyn, hawdd, ma syml, ond mae'n ysgafn. Dydy Duw ddim yn cydnabod y sbwriel rwyt ti wedi'i gredu amdanat ti dy hun, ond mae e'n barod i'w gymryd oddi arnat, os wnei d adael iddo.
Amanda yn gollwng gafael ar gywilydd
GweithredaDos ati i adnabod celwyddau rwyt wedi'u credu a dechrau byw a datgan gwirioneddau Duw yn lle. www.life.church/declarations
Am y Cynllun hwn
Mewn tymor prysur adeg y Nadolig mae'r rhan fwyaf ohonom yn teimlo straen a phryder o fewn perthynas f=deuluol, penderfyniadau brysiog, a disgwyliadau siomedig. Felly dos yn dy flaen. Pwylla a dechrau'r cynllun Life.Church hwn a sylweddola fod y pwysau dŷn ni'n ei deimlo ddim tr hyn ofynnodd Duw i ni ei gario. Beth am beidio pryderu? Gad i ni fynd ar daith di-bryder.
More