Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Taith Di-bryderSampl

Travel Light

DYDD 4 O 7

Gollwng gafael ar Stwff

Ar un adeg, rôn i'n hoffi stwff lawer gormod, yn arbennig dillad. Pentyrrau o fargeinion, dillad, ac esgidiau, rhagweld fy mhryniant nesaf a dyheu beth oedd eraill yn ei wisgo. Sylweddolais yn fuan fod y pethau hyn yn pentyrru'n ddigon uchel i daflu cysgod dros fy addoliad dyddiol o Dduw.

Mae Rhufeiniaid, pennod 12, adnod 1 (beibl.net), Felly, am fod Duw wedi bod mor drugarog wrthoch chi, frodyr a chwiorydd, dw i'n apelio ar i chi roi eich hunain yn llwyr i Dduw. Cyflwyno eich hunain iddo yn aberth byw – un sy'n lân ac yn dderbyniol ganddo. Dyna.

th ydy addoliad go iawn!

Felly, rhoddais dro ar arferiad cyson: Wnes i ddim prynu dillad, nag esgidiau am flwyddyn!

Mae Duw'n siarad efo ni'n gyson am sut dŷn ni'n delio gyda pethau. Yn Luc, pennod 12 roedd yn eithaf plaen ei dafod yn yr un ddwedodd.

...“Gwyliwch eich hunain! Mae'r awydd i gael mwy a mwy o bethau yn beryglus. Dim faint o bethau sydd gynnoch chi sy'n rhoi bywyd go iawn i chi.” Luc, pennod, adnod beibl.net

Dysgais lot mewn blwyddyn. Sylweddolais nad oedd stwff yn fwy na dim ond baich arna i. Wrth weithio i'r weinidogaeth ryngwladol, Tearfund, gwelais sut y gall cynhyrchu diwydiannol fy mhethau, yn enwedig rhai o'r bargeinion, greu beichiau i'm cymdogion byd-eang. Ac wrth imi ddysgu mwy am sut mae'r brodyr a'r chwiorydd hynny yn gweithio mor galed gyda chyn lleied, doedd fy ngweddill ddim yn taro deuddeg.

Wrth i'm hawydd am stwff bylu, tyfodd fy awydd am Dduw. Ro'n i'n meddwl y baswn i'n colli allan, ond enillais gymaint mwy gan Dduw. Nid y math o "fwy" sy'n pentyrru, ond y math sy'n dy ollwng yn rhydd.

A fedraf i dy annog di gyda fy aralleiriad o beth ddwedodd yr Apostol Paul? Er gwaethaf pwysau cymdeithasol enfawr i gael mwy a mwy -i ryddid mae Iesu wedi ein golwng yn rhydd. Saf yn gadarn, felly, a phaid â gadael i bentwr o bethau fod yn faich arnat fyth eto.

Heddiw, dw i wedi dechrau prynu dillad eto, ond dw i'n fwy cymedrol. Dw i'n fwy diolchgar. Dw i'n gwerthfawrogi hyfrydwch ac ansawdd gymaint mwy. Dw i'n gwastraffu llai, a dw i'n trio gwerthfawrogi'r person wnaeth fy stwff drwy fy newisiadau prynu. Mae yna lai o lawer yn fy nghypyrddau, ond mae fy mywyd yn llawnach. Eto, y peth gorau am ollwng gafael ar stwff ydy bod mwy o le yn fy mywyd i addoli'r gwneuthurwr gorau oll.

Sarah yn cael ei rhyddhau o bethau

Gweddïa:O Dduw a oes yna bethau ble dw i wedi caniatau i stwff fy stopio rhag dy garu di a charu fy nghymydog?

Diwrnod 3Diwrnod 5

Am y Cynllun hwn

Travel Light

Mewn tymor prysur adeg y Nadolig mae'r rhan fwyaf ohonom yn teimlo straen a phryder o fewn perthynas f=deuluol, penderfyniadau brysiog, a disgwyliadau siomedig. Felly dos yn dy flaen. Pwylla a dechrau'r cynllun Life.Church hwn a sylweddola fod y pwysau dŷn ni'n ei deimlo ddim tr hyn ofynnodd Duw i ni ei gario. Beth am beidio pryderu? Gad i ni fynd ar daith di-bryder.

More

Hoffem ddiolch i Life Church am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.life.church/