Paid IldioSampl
Dydd 7-Nehemeia yn adeiladu wal
Teimlodd Nehemeia fod Duw’n ei alw i ailadeiladu’r wal yn Jerwsalem. Adeg yr alwad roedd e mewn gwlad arall yn gweithio ar ran y brenin, yn bell iawn oddi wrth fwriad ei galon. Ac eto, teimlodd od Duw’n ei alw i ailadeiladu wal Jerwsalem. Ar y pryd roedd mewn gwlad hollol wahanol, yn gweithio ar ran y brenin, yn bell iawn o beth oedd ar ei galon i’w wneud. Ac fel gall Duw’n unig ei wneud, agorodd yr holl ddrysau a’i gwneud hi’n bosib i Nehemeia ymateb i’w alwad.
Ond doedd y dasg ddim yn hawdd. Roedd y wal wedi’i chwalu’n llwyr. Roedd pobl Israel wedi’u gwasgaru i bob cyfeiriad a byddai gwrthwynebiad yn siŵr o godi. Ac yn wir, fe wnaeth
Clywodd ryw ddynion am fwriadau Nehemeia a cheisio rhwystro’r gwaith. Gwawdio, cynddeiriogi a threfnu i niweidio. Roedd mor ddrwg fel bod angen i Nehemeia neilltuo hanner ei wŷr i warchod gydag arfau rhag ofn i'w wrthwynebwyr godi. Roedd hyn yn mynd i ddarparu diogelwch, ond yn dyblu’r amser i gwblhau’r wal.
Pan dw i’n darllen y stori hon, dw i’n clywed y robot o ‘Lost in Space’ yn dweud, “Danger, Will Robinson.” Dw i ddim yn gwybod amdanat ti, ond, mae’n siŵr y baswn i wedi rhoi’r gorau iddi. Roedd yn dasg frawychus, a phan mae peryglon yn cael eu hychwanegu, a falle risgio dy fywyd, mae’n rhaid i’r sicrwydd fod yn agos i’r galon.
Yng ngwyneb pob anhawster fe wnaeth Nehemeia ddyfalbarhau. Ac felly hefyd y bobl a’i dilynodd. Mae adnod 6 yn dweud, “ Felly dyma ni'n ailadeiladu'r wal..” Roedd hyn AR ÔL bygythiadau - nid cyn. Roedd angerdd a phendantrwydd Nehemeia i gyflawni AR ÔL bygythiadau - nid cyn. Mabwysiadwyd angerdd a phendantrwydd Nehemeia i gyflawni cynllun /duw, gan y rhai oedd yn gweithio ag e. Mae hynny’n enghraifft bwerus ar gyfer yr arweinydd blinedig.
Yr hyn a ymddangosai fel pe bai wedi’i blethu â’u dygnwch oedd eu hagwedd at weddi. Roedden nhw’n griddfan ar Dduw. Yn wir, fe wnaed hyn ganddyn nhw, cyn iddyn nhw wneud unrhyw symudiad tuag at greu rhwystrau o ddiogelwch. Eu hosgo cyntaf oedd un o weddi - y symudiad gorau y gallen nhw ei wneud. A phan wnaethon nhw, wnaeth Duw symud. Wnaeth Duw ymateb a’u hamddiffyn.
Mae’n hanfodol i ti roi gweddi ar flaen dy frwydrau. Bydd yn dy gymell, dy atgoffa, a’th ffocysu ar ddyfalbarhad. Mae gweddi’n hanfodol ar gyfer dygnwch.
Unwaith roedd y wal wedi’i gwblhau mae llyfr Nehemeia yn cloi gyda nodyn wnaeth cenhedloedd gerllaw dalu sylw iddo a phriodoli beth ddigwyddodd i Dduw. Wnaeth ffyddlondeb Nehemeia, nid yn unig gweld cwblhau’r dasg, ond hefyd fe wnaeth ogoneddu Duw mewn ffordd na fyddai wedi digwydd pe bai e wedi rhoi’r gorau iddi.
Fy ngweddi yw y bydd daith 7niwrnod ma wedi rhoi anogaeth i ti ddal ati. Cofia addewidion a ffyddlondeb Duw. Atgoffa dy hun am ddynion a merched yn y Beibl wnaeth ddim rhoi ‘r gorau iddi pan oedd y byd yn eu herbyn. Gelli dithau fy ffrind, oresgyn y storm.
Rhag ofn dy fod yn chwilio am fwy o anogaeth dos draw i’m gwefan i gael llawer o gymhwysiad ymarferol i frwydrau bywyd go iawn yn >http://www.brittanyrust.com.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Wyt ti wedi blino neu dy lethu gymaint mewn bywyd fel dy fod eisiau ildio a dweud, “digon yw digon?” Mae’r Beibl yn llawn anogaeth i ddyfalbarhau a dal ati! Bydd y cynllun 7 diwrnod hwn yn dy adnewyddu ar gyfer y daith sydd o’th flaen.
More