Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Paid IldioSampl

Don't Give Up

DYDD 4 O 7

Dydd 4-Y Wobr i Ddod

Does run rhedwr yn derbyn medal heb redeg y ras. Does run pêl-droediwr yn ennill y Gynghrair heb nifer o ymarferion a gemau sy’n arwain at lwyddiant. Does run cogydd yn ennill Gwobr Bwydydd Enwog Prydeinig heb waith caled yn y gegin. (Heb gywilydd fedra i ddweud fy mod i’n hoffi fy mwyd!).

Y gwir amdani yw bod pob gwobr yn dod gyda dygnwch. Wrth gwrs, gall hyn olygu pethau da ar y ddaear o ganlyniad i chwilio am Dduw gyntaf. Ond gymaint mwy na gwobr dros dro yw gwobr dragwyddol ac mae hynny ar gael i’r crediniwr ffyddlon.

Rhaid iti beidio rhoi’r gorau iddi wrth wynebu temtasiwn a threialon. Rhaid iti beidio â rhoi’r ffidil yn y to pan rwyt ti’n blino’n yn y storm. Hyd yn oed pan wyt ti bron â boddi, dalia ati i badlo nes i ryddhad ddod. Paid rhoi’r gorau iddi. Bydd y wobr y byddi’n derbyn yn anhygoel!

Mae yna wobr o fywyd tragwyddol a chyflawni’r cwbl mae Duw wedi’i addo i ti os rhedi di’r ras gyda dyfalbarhad. Os cedwi dy olwg ar Iesu a chadw’r ffydd, wnei di fyth ddifaru rhoi dy hun yn llwyr i Dduw. Fodd bynnag, rwyt yn siŵr o ddifaru'r troeon pan wnes di roi’r gorau iddi. Croesa’r llinell derfyn wedi ymlâdd o ddal ati, mewn gorfoledd llawn o dderbyn y wobr addawodd Duw.

Diwrnod 3Diwrnod 5

Am y Cynllun hwn

Don't Give Up

Wyt ti wedi blino neu dy lethu gymaint mewn bywyd fel dy fod eisiau ildio a dweud, “digon yw digon?” Mae’r Beibl yn llawn anogaeth i ddyfalbarhau a dal ati! Bydd y cynllun 7 diwrnod hwn yn dy adnewyddu ar gyfer y daith sydd o’th flaen.

More

Hoffem ddiolch i Brittany Rust am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://www.brittanyrust.com

Cynlluniau Tebyg