Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Paid IldioSampl

Don't Give Up

DYDD 5 O 7

Dydd 5—Joseff a’i freuddwydion

Roedd Joseff yn laslanc gyda breuddwyd. Breuddwyd a oedd yn cwmpasu casineb ei frodyr tuag ato am mai e oedd yr hoff fab. Breuddwyd oedd hi y byddai ei holl deulu’n ymgrymu o’i flaen ryw ddiwrnod

Gallai’r freuddwyd honno fod wedi chwalu o ganlyniad i beth ddaeth nesaf i Joseff. Ar ôl blynyddoedd o rwystredigaeth, bu ei frodyr yn hynod o greulon ato a’i werthu i mewn i gaethwasiaeth. Roedd ei frodyr ei hun yn ei ddedfrydu i fywyd o wasanaethu caled. Ac yntau mewn cadwyni gallai breuddwyd Joseff fod wedi’i golli yn y gorffennol.

Ond, wnaeth Joseff ddim rhoi’r gorau iddi yn ei gaethiwed. Yn lle, gwnaeth Joseff ei orau glas gyda’r hyn roedd Duw wedi’i roi iddo. Yn nhŷ Potiffar gweithiodd yn galed a phwyso ar Dduw. Wrth wneud hynny, bendithiodd Duw e. Cododd i oruchwylio holl eiddo'r dyn ac ymddiriedwyd popeth iddo. Dysgodd i arwain, i fod yn ostyngedig, a gwaseidd-dra mewn cyfnod o adnabyddiaeth, gan ddal gafael ar freuddwyd.

Parhaodd Joseff i fod yn ffyddlon pan aeth gwraig Potiffar ato. Cyhuddodd e o geisio cymryd mantais ohoni a thaflwyd Joseff i’r carchar. Roedd yr hyn oedd yn edrych fel cam yn ôl, mewn gwirionedd, yn gam ymlaen.

Tra oedd yn y carchar enillodd Joseff ffafr gyda cheidwad y carchar ac fe’i penodwyd fel goruchwyliwr dros y carcharorion - eto, roedd wedi ei benodi i safle o arweinyddiaeth. Tra yn y carchar dyma e’n cyfarfod prif-fwtler y brenin. Cafodd Joseff y cyfle i esbonio ei freuddwyd, a fyddai’n profi i fod yn werthfawr ddwy flynedd yn ddiweddarach pan gafodd y brenin freuddwyd oedd angen ei esbonio.

Pan esboniodd Joseff freuddwyd y brenin o newyn oedd eto i ddod cafodd ei benodi’n bennaeth ar wlad yr Aifft. Roedd ei freuddwyd wedi dod yn wir!

Cyflwynwyd llawer o sefyllfaoedd anodd i Joseff y byddai’r mwyafrif wedi rhoi’r gorau iddi. Ond daliodd ati i ddyfalbarhau a gwneud ei orau gyda'r hyn oedd ganddo. O ganlyniad, gwelodd ei freuddwyd yn cael ei gwireddu a helpodd i achub miloedd, gan gynnwys ei deulu ei hun.

Diwrnod 4Diwrnod 6

Am y Cynllun hwn

Don't Give Up

Wyt ti wedi blino neu dy lethu gymaint mewn bywyd fel dy fod eisiau ildio a dweud, “digon yw digon?” Mae’r Beibl yn llawn anogaeth i ddyfalbarhau a dal ati! Bydd y cynllun 7 diwrnod hwn yn dy adnewyddu ar gyfer y daith sydd o’th flaen.

More

Hoffem ddiolch i Brittany Rust am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://www.brittanyrust.com

Cynlluniau Tebyg