Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Paid IldioSampl

Don't Give Up

DYDD 3 O 7

Day 3-Dyfalbarhau dros Eraill

Roedd Paul yn adnabod caledi’n weddol dda. Profodd garchariad, cael ei guro sawl gwaith, llongddrylliad, newyn, gor-flinder, a llawer mwy ar gyfer achos Crist. Ac eto, drwy’r cyfan, wnaeth e ddyfalbarhau. Daliodd ati i symud ymlaen. Ond, doedd e ddim ar gyfer Crist yn unig - ond ar gyfer pobl eraill hefyd.

Ydyn, dŷn ni’n byw o dan berygl cyson o farwolaeth, oherwydd dŷn ni’n gwasanaethu Iesu, fel bod bywyd Iesu’n amlwg yn ein cyrff sy’n marw. Felly dŷn ni’n byw yn wyneb marwolaeth, ond mae hyn wedi arwain at fywyd tragwyddol i ti..”

Gwyddai Paul fod caledi parhaus yn creu cyfle i Grist gael ei ogoneddu., arweiniodd at iachawdwriaeth llawer. Mae hynny’n wiri tithau a sut ti’n byw dy fywyd. Pan rwyt ti’n dyfalbarhau drwy gyfnodau caled, yn dal yn dynn i’r hyn sy’n wirionedd a chyfiawn, mae pobl yn talu sylw. Pan maen nhw’n gweld sut rwyt ti’n ymddwyn mewn cyfnodau tywyll, maen nhw eisiau gwybod mwy.

Wnaeth fy mrawd iau ddangos hyn yn hynod o glir mewn tymor anodd iawn yn ei fywyd, pan oedd yn ei ugeiniau cynnar, pan gafodd e a’i gariad ryw tu allan i briodas. Arweiniodd hyn at feichiogrwydd a ddarganfuwyd ganddyn nhw ddiwrnod cyn ei fwriad i ofyn iddi ei briodi. Roedden nhw wedi gwneud camgymeriad, ond doedd ganddyn nhw ddim syniad beth oedd o’u blaen.

Fawr ddim amser ar ôl iddo e a’i gariad ddysgu am y beichiogrwydd, fe wnaeth hi ddod â’r berthynas i ben, a welodd e mohoni tan ar ôl yr enedigaeth. Roedd yn dymor o dorcalon dirdynnol i’m mrawd. Roedd, nid yn unig, wedi colli’r un fenyw roedd e’n ei garu, roedd wedi colli ar y cyfle o weld ei ferch yn cael ei geni i’r byd.

Yr hyn sy’n hynod yw, sut wnaeth e gerdded drwy’r tymor gyda chymaint o ffydd a ffyddlondeb. Cerddodd lwybr adnewyddiad, yn sgil ei bechod, ond daeth o hyd i agosatrwydd ac iachâd gyda’i Dad. Cymrodd pobl oedd yn ei adnabod - a rhai ohonyn nhw’n anghredinwyr - sylw o’i ddyfalbarhad yn y storm, ac roedd y cyfan yn pwyntio nôl at Dduw, Achosodd ei galedi ogoniant i Dduw mewn ffyrdd hyfryd. Dw i’n falch i adrodd hefyd i Dduw adnewyddu’r berthynas honno, ac maen nhw nawr yn briod gyda dau o blant!

Dw i’n rhannu hyn oherwydd mae pob un ohonom ni’n cael eiliadau o fod eisiau rhoi’r ffidil yn y to o ganlyniad i or-flinder a digalondid. Ond, allwn ni ddim. Mae'n rhaid i ni ddal ati waeth pa mor galed y gallai'r tymor fod. Bydd yn fuddiol iawn i ti ddyfalbarhau, ond hefyd yn gweinidogaethu i eraill. Mae dy ddyfalbarhad â’r gallu i bwyntio pobl at Grist, gan arwain at newid bywydau!

Diwrnod 2Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

Don't Give Up

Wyt ti wedi blino neu dy lethu gymaint mewn bywyd fel dy fod eisiau ildio a dweud, “digon yw digon?” Mae’r Beibl yn llawn anogaeth i ddyfalbarhau a dal ati! Bydd y cynllun 7 diwrnod hwn yn dy adnewyddu ar gyfer y daith sydd o’th flaen.

More

Hoffem ddiolch i Brittany Rust am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://www.brittanyrust.com

Cynlluniau Tebyg