Paid IldioSampl
Dydd 6—Gwraig weddw oedd yn gwrthod rhoi’r gorau iddi
Mae’r wraig weddw oedd yn gwrthod rhoi’r gorau iddi wedi bod anogaeth imi ddal ati yn fy nhreialon. Dw i’n cofio am ei phendantrwydd a ffyddlondeb, pan mae fy un i wedi bod eisiau rhoi’r gorau iddi. Ei stori hi sy’n rhoi gobaith imi pan fydd gobaith yn dechrau pylu.
Yn y ddameg wnaeth Iesu ei rhannu. Mae yna wraig sy’n chwilio am gyfiawnder ac aeth a’i hachos at farnwr anghyfiawn. Ar y dechrau wnaeth e ddim ildio fodfedd iddi, drosodd a throsodd. Ond dal ati wnaeth y weddw. Ar ôl sawl ymgais o ofyn am gyfiawnder wnaeth y barnwr ganiatáu ei chais. Pam? Fel ei bod hi’n gadael llonydd iddo!
Mae Iesu’n parhau â’r wers, pe bai barnwr anghyfiawn yn caniatáu cais gwraig weddw, nad yw’n poeni dim amdani oherwydd ei bod yn gwrthod rhoi’r gorau iddi, pa faint mwy y bydd Duw yn ymateb i’w blant ei hun pan ddôn nhw â’u cais ato.
Mae Duw yn dda ac mae e’n ffyddlon. Mae e’n gyfiawn ac mae e’n clywed go iawn weddïau ei bobl. Fe fydd yna gyfnodau fel pe bai dim ateb yn dod i’th weddïau, neu dwyt ti ddim o bwys i Dduw o’i gymharu â rhywun arall. Dw i wedi bod yna, ac mae’n anodd. Ond fedri di ddim rhoi’r gorau iddi!
Wnaeth y weddw ddim stopio pan oedd yn wynebu barnwr anghyfiawn. Gyda hyn mewn golwg cei dy annog i barhau i fynd ar drywydd Duw cyfiawn am y pethau hynny sy'n bwysig i ti. Mae'n sicr yn dy glywed. Efallai na fydd yn ymateb yn union sut a phryd yr hoffet ti, ond bydd bob amser yn ymateb yn y ffordd berffaith ar yr amser iawn.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Wyt ti wedi blino neu dy lethu gymaint mewn bywyd fel dy fod eisiau ildio a dweud, “digon yw digon?” Mae’r Beibl yn llawn anogaeth i ddyfalbarhau a dal ati! Bydd y cynllun 7 diwrnod hwn yn dy adnewyddu ar gyfer y daith sydd o’th flaen.
More