Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Paid IldioSampl

Don't Give Up

DYDD 2 O 7

Day 2-Diffinio dy Gymeriad

Mae gan rywbeth am ddygnwch y gallu anhygoel i dy goethi. Dw i’n tybio ei fod rhywbeth yn debyg i’r tân ar gyfer arian cael gwared ar amhurdeb a chryfhau cymeriad. Mae hynny am fod dycnwch yn mynd law yn llaw â threialon, ac mae treialon yn gallu llosgi.

Un o’r canlyniadau mwyaf hynod o ddyfalbarhau i’r diwedd yw cymeriad sy’n tebygu i Grist. Mae’n dy wneud yn berson gwell, drwy dynnu allan y natur bechadurus a chynaeafu ysbryd sy’n garedig, ostyngedig, amyneddgar, ac uwchlaw popeth, yn rhoi Crist o flaen pob dim.

Mae Rhufeiniaid 5 yn darparu cynllun ar gyfer y daith hon. Nid yw’n un hawdd, ond mae’n un pwysig i bob crediniwr. Mae’n dechrau gyda’r penderfyniad i lawenhau yn dy ddioddefiadau. Pan fyddi di’n gallu gwneud hyn, rwyt yn meithrin fflam dyfalbarhad, sy’n creu cymeriad.

Os elli di wneud y daith hon, mae llyfr Rhufeiniaid yn cadarnhau cymeriad. Ac nid yma’n unig, mae Philipiaid 1 yn addo y byddi’n rhedeg y ras, gyda dyfalbarhad, tan y diwedd. Bydd Duw’n cwblhau’r gwaith da ddechreuodd e flynyddoedd yn ôl, pan wnes di ildio dy glôn iddo e.

Wnei di ddim darganfod perffeithrwydd heddiw, byddi’n cyrraedd dy gartref - mae Crist yn ei baratoi - ac yno y byddi’n darganfod cyflawnder. Byddi di’n cerdded yn rhydd o bechod, yng nghyflawnder yr hwn y creodd Duw ti i fod yn wreiddiol.

Er dy fod falle eisiau rhoi’r ffidil yn y to heddiw, cofia y bydd dyfalbarhau yn arwain i fersiwn well ohonot ti dy hun, sy’n adlewyrchu Crist fwy a mwy dros amser.

Diwrnod 1Diwrnod 3

Am y Cynllun hwn

Don't Give Up

Wyt ti wedi blino neu dy lethu gymaint mewn bywyd fel dy fod eisiau ildio a dweud, “digon yw digon?” Mae’r Beibl yn llawn anogaeth i ddyfalbarhau a dal ati! Bydd y cynllun 7 diwrnod hwn yn dy adnewyddu ar gyfer y daith sydd o’th flaen.

More

Hoffem ddiolch i Brittany Rust am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://www.brittanyrust.com

Cynlluniau Tebyg