A bu, ac Ioan yn trochi yr holl bobl, Iesu hefyd á drochwyd; a thra yr oedd efe yn gweddio, agorwyd y nef, a’r Ysbryd Glan á ddisgynodd arno mewn rhith corfforawl, megys colomen; a daeth llef o’r nef yn dywedyd, Ti yw fy Mab, yr anwylyd; ynot ti yr ymhyfrydwyf. Ac Iesu ei hun á fu yn nghylch dengmlwydd àr ugain mewn darostyngedigaeth, mab (fel y tybid) i Ioseph, mab Heli, mab Matthat, mab Lefi, mab Melchi, mab Ianna, mab Ioseph, mab Mattathias, mab Amos, mab Nahum, mab Esli, mab Naggai, mab Maath, mab Mattathias, mab Semei, mab Ioseph, mab Iuwda, mab Ioanna, mab Rhesa, mab Zerubbabel, mab Salathiel, mab Neri, mab Melchi, mab Adi, mab Cosam, mab Elmodam, mab Er, mab Iose, mab Eliezer, mab Iorim, mab Matthat, mab Lefi, mab Symeon, mab Iuwda, mab Ioseph, mab Ionan, mab Eliacim, mab Melea, mab Mainan, mab Mattatha, mab Nathan, mab Dafydd, mab Iesse, mab Obed, mab Boaz, mab Salmon, mab Naason, mab Aminadab, mab Ram, mab Esrom, mab Phares, mab Iuwda, mab Iacob, mab Isaac, mab Abraham, mab Terah, mab Nachor, mab Serug, mab Reu, mab Peleg, mab Heber, mab Selah, mab Cainan, mab Arphacsad, mab Sem, mab Nöa, mab Lamech, mab Methusela, mab Enoch, mab Iared, mab Mehalaleel, mab Cainan, mab Enos, mab Seth, mab Adda, mab Duw.