Luc 3:16
Luc 3:16 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Ond ateb Ioan iddyn nhw i gyd oedd, “Dŵr dw i’n ei ddefnyddio i’ch bedyddio chi. Ond mae un llawer mwy grymus na fi yn dod yn fuan – rhywun sydd mor bwysig, fyddwn i ddim yn deilwng o fod yn gaethwas sy’n datod carrai ei sandalau hyd yn oed! Bydd hwnnw yn eich bedyddio chi gyda’r Ysbryd Glân a gyda thân.
Luc 3:16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
dywedodd ef wrth bawb: “Yr wyf fi yn eich bedyddio â dŵr; ond y mae un cryfach na mi yn dod. Nid wyf fi'n deilwng i ddatod carrai ei sandalau ef. Bydd ef yn eich bedyddio â'r Ysbryd Glân ac â thân.
Luc 3:16 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ioan a atebodd, gan ddywedyd wrthynt oll, Myfi yn ddiau ydwyf yn eich bedyddio chwi â dwfr: ond y mae un cryfach na myfi yn dyfod, yr hwn nid wyf fi deilwng i ddatod carrai ei esgidiau: efe a’ch bedyddia chwi â’r Ysbryd Glân, ac â thân.