Luc 3:4-6
Luc 3:4-6 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Roedd yn union fel mae’n dweud yn llyfr y proffwyd Eseia: “Llais yn gweiddi’n uchel yn yr anialwch, ‘Paratowch y ffordd i’r Arglwydd ddod! Gwnewch y llwybrau’n syth iddo! Bydd pob dyffryn yn cael ei lenwi, pob mynydd a bryn yn cael ei lefelu. Bydd y ffyrdd troellog yn cael eu gwneud yn syth, a’r lonydd anwastad yn cael eu gwneud yn llyfn. Bydd y ddynoliaeth gyfan yn gweld Duw yn achub.’”
Luc 3:4-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
fel y mae'n ysgrifenedig yn llyfr geiriau'r proffwyd Eseia: “Llais un yn galw yn yr anialwch, ‘Paratowch ffordd yr Arglwydd, unionwch y llwybrau iddo. Caiff pob ceulan ei llenwi, a phob mynydd a bryn ei lefelu; gwneir y llwybrau troellog yn union, a'r ffyrdd garw yn llyfn; a bydd y ddynolryw oll yn gweld iachawdwriaeth Duw.’ ”
Luc 3:4-6 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Fel y mae yn ysgrifenedig yn llyfr ymadroddion Eseias y proffwyd, yr hwn sydd yn dywedyd, Llef un yn llefain yn y diffeithwch, Paratowch ffordd yr Arglwydd, gwnewch ei lwybrau ef yn union. Pob pant a lenwir, a phob mynydd a bryn a ostyngir, a’r gwyrgeimion a wneir yn union, a’r geirwon yn ffyrdd gwastad: A phob cnawd a wêl iachawdwriaeth Duw.