Luc 3:21-22
Luc 3:21-22 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Pan oedd Ioan wrthi’n bedyddio’r bobl i gyd, dyma Iesu’n dod i gael ei fedyddio hefyd. Wrth iddo weddïo, dyma’r awyr yn rhwygo’n agored a’r Ysbryd Glân yn disgyn arno – ar ffurf colomen. A dyma lais o’r nefoedd yn dweud: “Ti ydy fy Mab annwyl i; rwyt ti wedi fy mhlesio i’n llwyr.”
Luc 3:21-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Pan oedd yr holl bobl yn cael eu bedyddio, yr oedd Iesu, ar ôl ei fedydd ef, yn gweddïo. Agorwyd y nef, a disgynnodd yr Ysbryd Glân arno mewn ffurf gorfforol fel colomen; a daeth llais o'r nef: “Ti yw fy Mab, yr Anwylyd; ynot ti yr wyf yn ymhyfrydu.”
Luc 3:21-22 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A bu, pan oeddid yn bedyddio’r holl bobl, a’r Iesu yn ei fedyddio hefyd, ac yn gweddïo, agoryd y nef, A disgyn o’r Ysbryd Glân mewn rhith corfforol, megis colomen, arno ef; a dyfod llef o’r nef yn dywedyd, Ti yw fy annwyl Fab; ynot ti y’m bodlonwyd.