Yn y bymthegfed flwyddyn o deyrnasiad Tiberius, a Phontius Pilat yn raglaw Iuwdea, Herod yn bedrarch Galilea, Phylip ei frawd yn bedrarch Ituwrea, a thalaeth Trachonitis, a Lysanias yn bedrarch Abilene; dan archoffeiriadaeth Annas a Chaiaphas, y daeth gair Duw at Ioan mab Zacharias, yn y diffeithwch. Ac efe á aeth drwy yr holl wlad àr yr Iorddonen, gàn gyhoeddi trochiad diwygiad èr maddeuant pechodau. Fel y mae yn ysgrifenedig yn llyfr y proffwyd Isaia, “Llef un yn cyhoeddi yn y diffeithwch, Parotowch ffordd i’r Arglwydd, gwnewch iddo fynedfa uniawn. Llanwer pob dyffryn, a llyfeler pob mynydd a bryn; gwneler y ffyrdd ceimion yn uniawn, a’r geirwon yn llyfnion, fel y gwelo pob cnawd iechydwriaeth Duw.” Yna y dywedodd efe wrth y tyrfëydd à ymdỳrent allan i gael eu trochi ganddo, Essill gwiberod, pwy á ddangosodd i chwi pa fodd i ffoi rhag y dialedd sydd àr ddyfod? Dygwch gàn hyny ffrwythau priodol diwygiad; a na ddywedwch ynoch eich hunain, Y mae genym ni Abraham yn dad i ni; canys yr ydwyf yn sicrâu i chwi, y dichon Duw, o’r cèryg hyn, gyfodi plant i Abraham. Ac yr awrhon hefyd y mae y fwyell wedi ei gosod àr wreiddyn y prèniau. Pob pren, gàn hyny, nid yw yn dwyn ffrwyth da, á dorir i lawr ac á deflir i’r tan.
Darllen Luwc 3
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Luwc 3:1-9
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos