Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Luwc 3

3
1-9Yn y bymthegfed flwyddyn o deyrnasiad Tiberius, a Phontius Pilat yn raglaw Iuwdea, Herod yn bedrarch Galilea, Phylip ei frawd yn bedrarch Ituwrea, a thalaeth Trachonitis, a Lysanias yn bedrarch Abilene; dan archoffeiriadaeth Annas a Chaiaphas, y daeth gair Duw at Ioan mab Zacharias, yn y diffeithwch. Ac efe á aeth drwy yr holl wlad àr yr Iorddonen, gàn gyhoeddi trochiad diwygiad èr maddeuant pechodau. Fel y mae yn ysgrifenedig yn llyfr y proffwyd Isaia, “Llef un yn cyhoeddi yn y diffeithwch, Parotowch ffordd i’r Arglwydd, gwnewch iddo fynedfa uniawn. Llanwer pob dyffryn, a #3:1 Gwastadâu.llyfeler pob mynydd a bryn; gwneler y ffyrdd ceimion yn uniawn, a’r geirwon yn llyfnion, fel y gwelo pob cnawd iechydwriaeth Duw.” Yna y dywedodd efe wrth y tyrfëydd à ymdỳrent allan i gael eu trochi ganddo, Essill gwiberod, pwy á ddangosodd i chwi pa fodd i ffoi rhag y dialedd sydd àr ddyfod? Dygwch gàn hyny ffrwythau priodol diwygiad; a na ddywedwch ynoch eich hunain, Y mae genym ni Abraham yn dad i ni; canys yr ydwyf yn sicrâu i chwi, y dichon Duw, o’r cèryg hyn, gyfodi plant i Abraham. Ac yr awrhon hefyd y mae y fwyell wedi ei gosod àr wreiddyn y prèniau. Pob pren, gàn hyny, nid yw yn dwyn ffrwyth da, á dorir i lawr ac á deflir i’r tan.
10-14Ar hyn y lliaws á ofynasant iddo, Pa beth gàn hyny sy raid i ni ei wneuthur? Yntau á atebodd, Y neb sy ganddo ddwy bais, cyfràned i’r sawl sy heb yr un; a’r neb sy ganddo fwyd, gwnaed yr un peth. Tollwyr hefyd á ddaethant iddeu trochi, y rhai á ddywedasant, Rabbi, Beth sy raid i ninnau ei wneuthur? Yntau á atebodd, Na chodwch ddim mwy nag sy gwedi ei osod i chwi. Milwyr hefyd á ofynasant iddo, A pha beth á wnawn ninnau? Yntau á atebodd, Na wnewch gam â neb, na thrwy drais, na thrwy gamachwyn, a byddwch foddlawn i’ch cyflogau.
15-18Fel yr oedd y bobl mewn petrusdod yn nghylch Ioan, pawb yn meddylied ynynt eu hunain, y gallai mai efe oedd y Messia, Ioan á’u cyfarchodd hwynt oll, gàn ddywedyd, Myfi yn ddiau wyf yn trochi mewn dwfr; ond y mae un cryfach na myfi yn dyfod, carai esgid yr hwn nid wyf fi deilwng iddei dattod; efe á’ch trocha chwi yn yr Ysbryd Glan a thân: yr hwn y mae ei raw nithio yn ei law, ac efe á lwyr lanâa, ei rawn; efe á gasgl y gwenith iddei heiniardy, ac á ddifa yr ûs mewn tân anniffoddadwy. A chyda llawer o gynghorion ereill, y cyhoeddodd efe i’r bobl y newydd da.
19-20Ond Herod y pedrarch wedi cael ei geryddu ganddo o achos Herodias gwraig ei frawd, ac am yr holl ddrygau à wnaethai Herod, á chwanegodd hyn hefyd at y lleill, sef cau Ioan yn y carchar.
21-38A bu, ac Ioan yn trochi yr holl bobl, Iesu hefyd á drochwyd; a thra yr oedd efe yn gweddio, agorwyd y nef, a’r Ysbryd Glan á ddisgynodd arno mewn rhith corfforawl, megys colomen; a daeth llef o’r nef yn dywedyd, Ti yw fy Mab, yr anwylyd; ynot ti yr ymhyfrydwyf. Ac Iesu ei hun á fu yn nghylch dengmlwydd àr ugain mewn darostyngedigaeth, mab (fel y tybid) i Ioseph, mab Heli, mab Matthat, mab Lefi, mab Melchi, mab Ianna, mab Ioseph, mab Mattathias, mab Amos, mab Nahum, mab Esli, mab Naggai, mab Maath, mab Mattathias, mab Semei, mab Ioseph, mab Iuwda, mab Ioanna, mab Rhesa, mab Zerubbabel, mab Salathiel, mab Neri, mab Melchi, mab Adi, mab Cosam, mab Elmodam, mab Er, mab Iose, mab Eliezer, mab Iorim, mab Matthat, mab Lefi, mab Symeon, mab Iuwda, mab Ioseph, mab Ionan, mab Eliacim, mab Melea, mab Mainan, mab Mattatha, mab Nathan, mab Dafydd, mab Iesse, mab Obed, mab Boaz, mab Salmon, mab Naason, mab Aminadab, mab Ram, mab Esrom, mab Phares, mab Iuwda, mab Iacob, mab Isaac, mab Abraham, mab Terah, mab Nachor, mab Serug, mab Reu, mab Peleg, mab Heber, mab Selah, mab Cainan, mab Arphacsad, mab Sem, mab Nöa, mab Lamech, mab Methusela, mab Enoch, mab Iared, mab Mehalaleel, mab Cainan, mab Enos, mab Seth, mab Adda, mab Duw.

Dewis Presennol:

Luwc 3: CJW

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda