Luwc 2
2
1-7Yn nghylch y pryd hwnw y darfu i Gaisar Augustus roddi gorchymyn allan, i gofrestru holl drigolion yr ymherodraeth. (Y cofrestriad yma á wnaethwyd gyntaf pan oedd Cyrenius yn raglaw àr Syria.) Pan oedd pawb yn myned iddeu cofrestru, bob un iddei ddinas ei hun, Ioseph, hefyd á aeth o Nasareth, dinas yn Ngalilea, i ddinas i Ddafydd, yn Iuwdea, à elwid Bethlehem (am ei fod o dỳ a llinach Dafydd,) i gael ei gofrestru gyda Mair ei wraig ddyweddiedig, yr hon oedd yn feichiog. A bu, tra yr oeddynt hwy yno, ddyfod yr amser iddi gael ei rhyddâu. A hi á esgorodd àr ei mab cyntafanedig, ac á’i rhwymynodd ef, ac à’i dododd mewn preseb, am nad oedd iddynt le yn lletty y dyeithriaid.
8-14Ac yr oedd yn y wlad hòno fugeiliaid yn y meusydd, yn gwylied eu praidd bob yn ail drwy wylbrydiau y nos. Yn ddisymwth, angel i’r Arglwydd á safodd yn eu hymyl, a gogoniant dwyfol á ddysgleiriodd o’u hamgylch, ac ofni yn ddirfawr á wnaethant. Ond yr angel á ddywedodd wrthynt, Nac ofnwch; canys wele! yr wyf fi yn mynegi i chwi newydd da, yr hwn fydd yn achos o lawenydd mawr i’r holl bobl; canys ganwyd i chwi heddyw, yn ninas Dafydd, Geidwad, yr hwn yw yr Arglwydd Fessia. Ac wrth hyn yr adwaenwch ef; chwi á gewch faban mewn rhwymynau magu, yn gorwedd mewn preseb. Yn ddisymwth yr oedd gyda ’r angel liaws o’r llu nefol, yn clodfori Duw, gan ddywedyd, Gogoniant i Dduw yn y goruchafion, a thangnefedd àr y ddaiar, ac ewyllys da yn mhlith dynion!
15-20A phan ddychwelodd yr angylion i’r nef, wedi gadael y bugeiliaid, dywedodd y rhai hyn wrth eu gilydd, Awn i Fethlehem, a gwelwn y peth hwn à wnaethwyd, yr hwn á hysbysodd yr Arglwydd i ni. A gwedi iddynt frysio yno, hwy á gawsant Fair a Ioseph gyda ’r maban, yr hwn oedd yn gorwedd yn y preseb. Pan welsant hwy hyn, hwy á gyhoeddasant yr hyn á ddywedasid wrthynt am y plentyn hwn. A phawb a’r á’i clywsant, á ryfeddasant am y pethau à ddywedid gàn y bugeiliaid wrthynt. Ond Mair ni adawai i’r un o’r pethau hyn fyned heibio yn ddisylw, gàn ystyried pob amgylchiad ynddi ei hun. A’r bugeiliaid á ddychwelasant, gàn ogoneddu a moliannu Duw, am yr holl bethau à glywsent ac à welsent, yr unwedd ag y dywedasid wrthynt.
21Ar yr wythfed dydd, pan enwaedid y plentyn, hwy á’i galwasant ef Iesu, gwedi i’r angel roddi iddo yr enw hwnw, cyn ei ymddwyn ef gàn ei fam.
22-24A gwedi i amser eu puredigaeth hwynt ddyfod i ben, hwy à’i dygasant ef i Gaersalem, fel y mae deddf Moses yn pènodi, èr ei gyflwyno ef i’r Arglwydd; (megys yr ysgrifenwyd yn nghỳfraith Duw, “Pob gwryw à fo gyntafanedig ei fam; á gysegrir i’r Arglwydd:”) ac i offrymu yr aberth à orchymynir yn y gyfraith, pâr o durdurod, neu ddau gyw colomen.
25-35Ac yr oedd gwr yn Nghaersalem a’i enw Symeon, gwr cyfiawn a chrefyddol, yr hwn oedd yn dysgwyl am ddyddanwch Israel; a’r Ysbryd Glan oedd arno, ac á ddadguddiasai iddo na byddai efe marw, cyn iddo weled Messia yr Arglwydd. Hwn á ddaeth, yn cael ei arwain gan yr Ysbryd, i’r deml. A phan ddyg y rhieni i fewn y plentyn Iesu, i wneuthur drosto yr hyn à ofynai y gyfraith, efe á’i cymerodd ef yn ei freichiau, ac a fendithiodd Dduw, ac á ddywedodd, Yr awrhon, Arglwydd, y gollyngi dy was mewn tangnefedd, yn ol dy air; canys fy llygaid á welsant yr Achubwr, yr hwn á ddarperaist yn ngolwg yr holl fyd; yn oleuad i oleuo y cenedloedd, ac i fod yn ogoniant dy bobl Israel. A Ioseph a mam Iesu á wrandawent gyda syndod, y pethau à ddywedid am dano ef. A Symeon á’u bendithiodd hwynt, ac á ddywedodd wrth Fair ei fam ef, Y plentyn hwn á osodwyd èr cwymp a chyfodiad i lawer yn Israel, ac i fod yn nod i ddywedyd yn ei erbyn; (ie, dy enaid di dy hun á frethir megys â phicell;) fel y dadguddier meddyliau llawer o galonau.
36-38Yr oedd hefyd Broffwydes, Anna, merch Phanuwel, o lwyth Aser, yn dra oedranus, yr hon á fuasai byw gyda gŵr saith mlynedd, yr hwn á briodasai hi pan yn forwyn; ac yn awr yr ydoedd yn wraig weddw o gylch wythdeg a phedair blwydd oed, a nid ymadawai o’r deml, ond á wasanaethai Dduw mewn gweddi ac ympryd, nos a dydd; hon hefyd gan ddyfod i fewn y cythrym hwnw, á ddiolchodd i’r Arglwydd, ac á lefarodd am Iesu, wrth bawb yn Nghaersalem à ddysgwylient waredigaeth.
39-40Gwedi iddynt orphen pob peth à ofynid yn nghyfraith yr Arglwydd, hwy á ddychwelasant i Alilea, iddeu dinas eu hun Nasareth. A’r plentyn á gynnyddodd, ac á gyrhaeddodd gryfder meddwl, wedi ei gyflawni o ddoethineb, a’i addurno â rhadferthedd dwyfol.
DOSBARTH III.
Y Trochiad.
41-50A rhieni Iesu á aent i Gaersalem bob blwyddyn àr wyl y Pasc. A phan oedd efe yn ddeg a dwy flwydd oed, wedi iddynt fyned yno, yn ol defod yr wyl, ac aros dros yr amser arferol; pan oeddynt àr ddychwelyd, arosodd y bachgen Iesu àr ol yn Nghaersalem, a ni wyddai Ioseph na ’i fam ef mo hyny. Eithr gàn dybied ei fod ef yn y fyntai, hwy á aethant daith diwrnod, ac yna á’i ceisiasant ef yn mhlith eu perthynasau a’u cydnabod; ond pryd na chawsant ef, hwy á ddychwelasant i Gaersalem, gan ei geisio ef. Ac àr ol tridiau, hwy á’i cawsant ef yn y deml, yn eistedd yn mhlith y doethorion, yn gwrandaw arnynt, ac yn eu holi hwynt. A phawb a’r á’i clywsant ef, á ryfeddasant wrth ei ddeall ef a’i atebion, a hwy á edrychasant arno gyda syndod. A’i fam á ddywedodd wrtho, Fy mab, paham y gwnaethost fel hyn â ni? Wele, dy dad a minnau yn ofidus á’th geisiasom di. Yntau á atebodd, Paham y ceisiech fi.? Oni wyddech bod yn raid i mi fod yn nghynteddau fy Nhad? Ond hwy ni ddeallasant ei atebiad ef.
51-52Ac efe á ddychwelodd gyda hwynt i Nasareth, ac á fu ddarostyngedig iddynt. A’i fam ef á gadwodd yr holl bethau hyn yn ei chof. Ac Iesu á gynnyddodd mewn doethineb a chorffolaeth, a mewn gallu gyda Duw a dynion.
Dewis Presennol:
Luwc 2: CJW
Uwcholeuo
Rhanna
Copi

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Yr Oraclau Bywiol gan John Williams 1842. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.