Ac yr oedd yn y wlad hòno fugeiliaid yn y meusydd, yn gwylied eu praidd bob yn ail drwy wylbrydiau y nos. Yn ddisymwth, angel i’r Arglwydd á safodd yn eu hymyl, a gogoniant dwyfol á ddysgleiriodd o’u hamgylch, ac ofni yn ddirfawr á wnaethant. Ond yr angel á ddywedodd wrthynt, Nac ofnwch; canys wele! yr wyf fi yn mynegi i chwi newydd da, yr hwn fydd yn achos o lawenydd mawr i’r holl bobl; canys ganwyd i chwi heddyw, yn ninas Dafydd, Geidwad, yr hwn yw yr Arglwydd Fessia. Ac wrth hyn yr adwaenwch ef; chwi á gewch faban mewn rhwymynau magu, yn gorwedd mewn preseb. Yn ddisymwth yr oedd gyda ’r angel liaws o’r llu nefol, yn clodfori Duw, gan ddywedyd, Gogoniant i Dduw yn y goruchafion, a thangnefedd àr y ddaiar, ac ewyllys da yn mhlith dynion!