Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Luwc 1

1
RHAGYMADRODD LUWC.
1-4Yn gymaint a darfod i lawer gymeryd mewn llaw gyfansoddi adroddawd o’r pethau à gyflawnwyd yn ein plith, megys y traddodasant hwy i ni, y rhai oeddynt o’r dechreuad yn llygad‐dystion, a gwedi hyny yn weinidogion y gair; minnau hefyd á benderfynais, wedi i mi olrhain pob peth yn ddyfal o’r dechreu, ysgrifenu atat hanes pènodol, ardderchocaf Theophilus, fel y cait wybod sicrwydd y pethau yth addysgwyd ynynt.
DOSBARTH I.
Y Cyfarchiad.
5-7Yn nyddiau Herod, brenin Iuwdea, yr oedd offeiriad a’i enw Zacharias, o ddyddgylch Abia; a’i wraig, a’i henw Elisabeth, oedd o ferched Aaron. Yr oeddynt ill dau yn gyfiawn gèr bron Duw, yn cadw holl orchymynion a deddfau yr Arglwydd yn ddiargyhoedd. A nid oedd plentyn iddynt, am fod Elisabeth yn anmhlantadwy, ac yr oeddynt wedi myned ill dau mewn gwth o oedran.
8-20A bu, pan ddaeth efe i offeiriadu yn nhrefn ei ddyddgylch, ddyfod o ran iddo, yn ol defod yr offeiriadaeth, arogldarthu yn y cysegr. A thra yr oedd yr arogldarth yn llosgi, yr holl gynnulleidfa oedd allan yn gweddio. Yna yr ymddangosodd iddo angel i’r Arglwydd, yn sefyll o’r tu dëau i allor yr arogldarth. A Zacharias á gythruddwyd wrth yr olwg, ac ofn á syrthiodd arno. Ond yr angel á ddywedodd wrtho, Nac ofna, Zacharias; canys gwrandawyd dy weddi, ac Elisabeth, dy wraig, á ddwg i ti fab, a thi á elwi ei enw ef Ioan. Efe á fydd i ti yn achos o lawenydd a gorfoledd; a llawer á lawenychant am ei enedigaeth ef. Canys mawr fydd efe gèr bron yr Arglwydd; nid ŷf na gwin nac unrhyw lŷn iliedig; ond efe á lenwir â’r Ysbryd Glan, hyd yn nod o’i enedigaeth. A llawer o feibion Israel á ddwg efe yn ol at yr Arglwydd eu Duw. Hefyd, efe á â o’i flaen ef yn ysbryd a nerth Elias, i gymmodi tadau â’u plant, a, thrwy ddoethineb y rhai cyfiawn, i wneuthur yr anufydd yn bobl wedi ei parotoi i’r Arglwydd. A dywedodd Zacharias wrth yr angel, Pa fodd y gwybyddaf fi hyn; oblegid yr ydwyf yn hen ŵr, a’m gwraig hefyd mewn gwth o oedran? Yr angel gàn ateb, á ddywedodd wrtho, Myfi yw Gabriel, yr hwn wyf yn gweini yn ngwydd Duw, ac á ddanfonwyd i fynegi i ti y newydd da hwn. Ond gwybydd y byddi fud, a heb gael dy barabl, hyd y dydd y cymer y pethau hyn le, am na chredaist fy ngeiriau i, y rhai á gyflawnir yn eu hamser priodol.
21-25Yn y cyfamser, y bobl á ddysgwylient am Zacharias, ac yr oeddynt yn rhyfeddu ei fod yn aros cyhyd yn y cysegr. Ond pan ddaeth efe allan, ni allai efe lefaru wrthynt; a hwy á wybuant weled o hono weledigaeth yn y cysegr; oblegid efe á wnai iddynt ddeall drwy arwyddion, ac á arosodd yn fud. A chygynted ag y daeth dyddiau ei weinidogaeth ef i ben, efe á ddychwelodd adref. Yn fuan wedi, Elisabeth ei wraig ef á feichiogodd, ac á fu byw dros bumm mis mewn neillduaeth, ac á ddywedodd, Hyn á wnaeth yr Arglwydd i mi, gàn fwriadu yr awrhon dỳnu ymaith fy ngwaradwydd yn mhlith dynion.
26-38Ac yn y chwechfed mis, yr anfonodd Duw Gabriel, ei angel, i Nasareth, dinas yn Ngalilëa; at forwyn wedi ei dyweddio i ŵr a’i enw Ioseph, o dý Dafydd, ac enw y forwyn oedd Mair. Pan ddaeth yr angel i fewn, efe á ddywedodd wrthi, Hanbych well, y radgaredig! yr Arglwydd fyddo gyda thi, ddedwyddaf o wragedd! Wrth ei ymddangosiad a’i eiriau hi á gythruddwyd, a meddylio á wnaeth ynddi ei hun, beth á allai y cyfarcheb hwn arwyddocâu. A’r angel á ddywedodd wrthi, Nac ofna, Mair, canys ti á gefaist radgarwch gyda Duw. Ac wele, ti á gai feichiogi ac esgor àr fab, a thi á elwi ei enw ef Iesu. Efe á fydd mawr, ac á elwir yn Fab y Goruchaf. A’r Arglwydd Dduw á rydd iddo orsedd ei dad Dafydd. Ac efe á deyrnasa àr dŷ Iacob yn dragywydd; ac àr ei deyrnasiad ni bydd diwedd. Yna y dywedodd Mair wrth yr angel, Pa fodd y bydd hyn, gan nad oes i mi gyweithas â gwr? Yr angel gàn ateb, á ddywedodd wrthi, Yr Ysbryd Glan á ddisgyn arnat, a nerth y Goruchaf á’th gysgoda; am hyny, yr essill santaidd á elwir yn Fab Duw. Ac wele! Elisabeth dy gares, y mae hithau gwedi beichiogi àr fab yn ei henaint; a’r hon à elwid yn anmhlantadwy, sydd yn awr yn ei chwechfed mis; canys nid oes dim yn annichon gyda Duw. A Mair á ddywedodd, Wele, wasanaethyddes yr Arglwydd. Bydded i mi yn ol dy wir di. Yna yr ymadawodd yr angel.
39-45A Mair á gychwnodd yn y dyddiau hyny, ac á ymdeithiodd i’r mynydd‐dir àr frys, i ddinas o Iuwda; lle gwedi iddi fyned i fewn i dŷ Zacharias, y cyfarchodd hi well i Elisabeth. Cygynted ag y clywai Elisabeth gyfarcheb Mair, llàmodd y maban yn ei chroth hi; ac Elisabeth á lanwyd o’r Ysbryd Glan, ac á lefodd â llef uchel, Ti wyt y fendigedicaf o wragedd, a bendigedig yw ffrwyth dy groth di. Ond pa fodd y rhyglyddais i yr anrhydedd hwn, fel yr ymwelai mam fy Arglwydd â mi! canys gwybydd, mai cygynted ag y cyrhaeddodd dy gyfarcheb fy nghlustiau, y maban á làmodd o lawenydd yn fy nghroth. A gwỳn ei byd yr hon à gredodd, y cyflawnir y pethau à addawodd yr Arglwydd iddi.
46-56Yna y dywedodd Mair, Y mae fy enaid yn mawrâu yr Arglwydd, a’m hysbryd á lawenychodd yn Nuw fy Iachawdwr; am na ddiystyrodd efe iselder ei wasanaethyddes; oblegid o hyn allan yr holl genedlaethau á’m galwant yn wynfydedig. O herwydd yr Hollalluog, yr hwn sydd a’i enw yn santeiddiol, á wnaeth i mi bethau rhyfedd. Ei drugaredd, àr y rhai à’i hofnant ef, sy hyd oes oesoedd. Efe á arddengys nerth ei fraich, a gwagddychymygion y rhai balch á wasgara efe ymaith. Efe á dỳn i lawr y cedyrn oddar eu gorseddfëydd, ac á ddyrchafa y rhai iselradd. Y rhai angenog á leinw efe â phethau da; ond y rhai goludog á ddifuddia efe o bob peth. Efe á gynnal ei was Israel, (fel yr addawodd wrth ein tadau,) gàn fod yn wastad yn drugareddgar tuagat Abraham a’i hiliogaeth. A Mair, wedi aros gydag Elisabeth yn nghylch tri mis, á ddychwelodd adref.
DOSBARTH II.
Y Genedigaeth.
57-66Pan gyflawnwyd tymp Elisabeth i esgor, hi á esgorodd àr fab; a’i chymydogion a’i pherthynasau, y rhai á glywsant ddarfod i’r Arglwydd ddangos iddi garedigrwydd mawr, á gydlawenychasant â hi. Ac, àr yr wythfed dydd, pan ddaethant i enwaediad y plentyn, mynasent ei alw àr enw ei dad, Zacharias. A’i fam á gyfryngodd, gàn ddywedyd, Nage; eithr Ioan y gelwir ef. Hwythau á ddywedasant wrthi, Nid oes neb o’th geraint o’r enw hwnw. Am hyny, hwy á wnaethant amnaid àr ei dad ef, pa fodd y mỳnai efe ei enwi ef. Yntau, gwedi galw am argrafflech, á ysgrifenodd arni, Ioan yw ei enw ef, yr hyn á wnaeth iddynt oll ryfeddu. Ac agorwyd ei enau ef yn ebrwydd, a’i dafod ef á ryddâwyd. Ac efe á lefarodd, gàn foliannu Duw. A phawb yn y gymydogaeth á darawyd ag arswyd, a’r sôn am y pethau hyn á ymdaenodd dros holl fynydd‐dir Iuwdea. A phawb a’r á glywsant y pethau hyn, gàn eu hystyried yn eu calonau, á ddywedasant, Beth fydd y plentyn hwn? A llaw yr Arglwydd oedd gydag ef.
67-79Yna Zacharias, ei dad ef, wedi ei gyflawni o’r Ysbryd Glan, á broffwydodd, gàn ddywedyd, Bendigedig fyddo yr Arglwydd, Duw Israel, canys efe á ymwelodd â’i bobl, ac á’u gwaredodd hwynt; ac (megys yr addawodd efe gynt drwy ei santaidd broffwydi,) á gyfododd Dywysog èr ein gwaredigaeth ni yn nhŷ Dafydd ei wasanaethwr – èr ein gwaredigaeth rhag ein gelynion, ac o law pawb o’n caseion; mewn caredigrwydd at ein cyndadau, a chôf o’i sefydliad santaidd – y llw à dyngodd efe wrth ein tad Abraham, àr ganiatâu i ni, gwedi ein rhyddâu o law ein gelynion, allu ei wasanaethu ef yn ddiofn, mewn duwioldeb ac unionder dros ein holl ddyddiau. A thithau, blentyn, á elwir yn Broffwyd i’r Goruchaf; oblegid ti á ai o flaen yr Arglwydd, i barotoi ei ffordd ef, drwy roddi gwybodaeth iechydwriaeth iddei bobl ef, mewn maddeuant o’u pechodau, drwy dosturiaethau ein Duw ni, yr hwn á wnaeth i oleuni godi o’r uchelder i ymweled â ni, i oleuo y rhai à arosant mewn tywyllwch a chysgod angeu, i gyfeirio ein traed i ffordd tangnefedd.
80Yn y cyfamser y plentyn á gynnyddodd, ac á gyrhaeddodd gryfder meddwl, ac á arosodd yn y diffeithwch, hyd yr amser yr ymhysbysodd efe i Israel.

Dewis Presennol:

Luwc 1: CJW

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda