Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Luwc 4

4
1-13Ac Iesu yn llawn o’r Ysbryd Glan, á ddychwelodd oddwrth yr Iorddonen, ac á arweiniwyd gan yr Ysbryd i’r anialwch, lle y bu efe ddeugain niwrnod, ac á demtid gàn y diafol. Ac efe heb fwyta dim drwy yr holl amser hwnw, gwedi ei ddiweddu yr oedd arno chwant bwyd; a dywedodd y diafol wrtho, Os Mab Duw wyt ti, gorchymyn i’r gàreg hon fod yn fara. Iesu á’i hatebodd ef, gan ddywedyd, Ysgrifenedig yw, “Nid àr fara yn unig y mae dyn yn byw, ond àr bethbynag á welo Duw yn dda.” Yna y diafol, wedi ei gymeryd ef i ben mynydd uchel, á ddangosodd iddo holl deyrnasoedd y ddaiar mewn mynyd awr, ac á ddywedodd wrtho, Yr holl awdurdod a’r gogoniant hwn á roddaf i ti, canys i mi ei traddodwyd, ac i bwybynag y mỳnwyf y rhoddaf finnau ef; os tydi, gàn hyny, a’m haddoli i, eiddot ti fydd y cwbl. Iesu gan ateb, á ddywedodd, Ysgrifenedig yw, “Yr Arglwydd dy Dduw á addoli, ac ef yn unig á wasanaethi.” Yna efe á’i dyg ef i Gaersalem, a gwedi ei osod ef àr furganllaw y deml, á ddywedodd wrtho, Os Mab Duw wyt ti, bwrw dy hun i lawr oddyma; canys ysgrifenedig yw, “Efe á rydd orchymyn iddei angylion am danat i ’th gadw; ac yn eu breichiau yth gannaliant, rhag taro o honot dy droed wrth gàreg.” Iesu á atebodd, Dywedwyd, “Na phrofa yr Arglwydd dy Dduw.” A gwedi i ddiafol orphen yr holl brofedigaeth, efe á ymadawodd ag ef dros amser.
DOSBARTH IV.
Cychwniad y Weinidogaeth.
14-15Yna Iesu, drwy gyffrawd yr Ysbryd, á ddychwelodd i Alilea, a’i glod ef á ymdaenodd dros yr holl wlad, ac efe á athrawiaethai yn eu cynnullfëydd hwynt, ac á gai ganmoliaeth gan bawb.
16-30Gwedi dyfod i Nasareth, lle y magesid ef, efe á aeth i’r gynnullfa, yn ol ei arfer, àr y Seibiaeth, ac à safodd i fyny i ddarllen. A rhoddwyd yn ei law lyfr y Proffwyd Isaia, a gwedi iddo agoryd y llyfr, efe á gafodd y lle yr oedd yn ysgrifenedig, “Ysbryd yr Arglwydd sydd arnaf fi, o herwydd iddo fy eneinio i gyhoeddi newydd da i’r tylodion, i bregethu gollyngdod i’r caethion, a chaffaeliad golwg i’r deillion, i ollwng y rhai gorthrymedig yn ryddion, i gyhoeddi blwyddyn cymeradwyaeth gyda ’r Arglwydd,” A gwedi iddo gau y llyfr, a’i roddi i’r gweinydd efe á eisteddodd. A llygaid pawb yn y gynnullfa oedd yn craffu arno. Ac efe á ddechreuodd drwy ddywedyd wrthynt, Heddyw y cyflawnwyd yr ysgrythyr yr ydych newydd ei chlywed. A phawb á’i clodforent ef; ond wedi sỳnu wrth y geiriau rhadlawn à draethai efe, dywedasant, Onid mab Ioseph yw hwn? Yntau á ddywedodd wrthynt, Diammhau y cymhwyswch ataf y ddiareb hon, “Feddyg, iachâa dy hun.” Gwna yma yn dy wlad dy hun, weithredoedd cymaint ag y clywsom i ti eu gwneuthur yn Nghapernäum. Ond y gwir yw, meddai efe, Ni bu un proffwyd erioed yn gymeradwy yn ei wlad ei hun. Mewn gwirionedd yr wyf yn dywedyd i chwi, bod llawer o wragedd gweddwon yn Israel yn nyddiau Elias, pan gauwyd y nef dair blynedd a hanner, fel y bu newyn mawr drwy yr holl dir; ond nid at yr un o honynt yr anfonwyd Elias, ond at wraig weddw o Sarepta yn Sidonia. Llawer o wahangleifion hefyd oedd yn Israel yn amser Eliseus y proffwyd; a ni lanâwyd yr un o honynt, ond Naaman y Syriad. A’r rhai oll yn y gynnullfa, wrth glywed hyn, á lanwyd o ddigofaint, a gwedi codi i fyny, á’i gỳrasant ef allan o’r ddinas, ac á’i dygasant ef hyd àr ael y bryn, yr hwn yr oedd eu dinas wedi ei hadeiladu arno, fel y bwrient ef bendramwnwgl i lawr. Yntau, gan fyned drwy eu canol hwynt, à aeth ymaith.
31-32Yna y daeth efe i Gapernäum, dinas yn Ngalilëa, ac á’u dysgodd hwynt àr y Seibiaeth. A hwy á darawyd ag arswyd wrth ei ddull o ddysgu; oblegid yr oedd efe yn llefaru gydag awdurdod.
33-37Ac yn y gynnullfa yr oedd dyn â chanddo ysbryd cythraul aflan, yr hwn á waeddodd allan, gan ddywedyd, Och! Iesu o Nasareth, beth sydd á wnelych â ni? A ddaethost ti i’n dyfetha ni? Myfi á ẁn pwy ydwyt – Sant Duw. Ac Iesu á’i ceryddodd ef, gan ddywedyd, Taw, a dyred allan o hono. Ar hyny, y cythraul, wedi ei daflu ef i ganol y gynnulleidfa, á ddaeth allan heb ei niweidio ef. A daeth braw arnynt oll, a dywedasant wrth eu gilydd, Beth yw hyn, ei fod gydag awdurdod a nerth yn gorchymyn i’r ysbrydion aflan, a hwythau yn dyfod allan? O’r pryd hwnw, y cyhoeddwyd y son am dano drwy bob parth o’r wlad.
38-39Gwedi iddo fyned allan o’r gynnullfa, efe á aeth i fewn i dŷ Simon, mam‐yn‐nghyfraith yr hwn oedd mewn twymyn dost, a hwy á attolygasant arno drosti hi. Iesu gan sefyll yn ei hymyl hi, á geryddodd y dwymyn, a fo á’i gadawodd hi, ac yn ddiannod hi á gyfododd, ac á wasanaethodd arnynt hwy.
40-44Gwedi machlud haul, pawb à oedd ganddynt rai cleifion, o ba fath glefyd bynag, á’u dygasant hwynt ato ef; yntau, gwedi gosod ei ddwylaw àr bob un, á’u hiachaodd hwynt. Cythreuliaid hefyd á ddaethant allan o lawer, dan lefain, Ti yw Mab Duw. Ond efe à’u ceryddodd hwynt, a ni adawai iddynt lefaru, am y gwyddent mai efe oedd y Messia. Gwedi ei myned hi yn ddydd, efe á giliodd i le anial; a’r dyrfa á’i ceisiasant ef, ac á ddaethant ato, ac á’i hattaliasant ef rhag myned ymaith oddwrthynt; ond efe á ddywedodd wrthynt, Rhaid i mi gyhoeddi newydd da Teyrnasiad Duw mewn dinasoedd ereill hefyd, o herwydd i hyn ym danfonwyd. Yn ganlynol, efe á wnaeth y cyhoeddiad hwn yn nghynnullfëydd Galilea.

Dewis Presennol:

Luwc 4: CJW

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda