Gwedi myned y Seibiaeth drosodd, a’r dydd cyntaf o’r wythnos yn dechreu gwawrio, Mair y Fagdalëad a’r Fair arall, á aethant i weled y beddrawd. Ac yr oedd daiargryn fawr wedi bod yno: canys angel i’r Arglwydd á ddisgynasai o’r nef, yr hwn, wedi iddo dreiglo y maen oddwrth y drws, á eisteddodd arno. Ei wynebpryd oedd fel mellten, a’i wisg yn wen fel eira. Wrth yr olwg arno, crynodd y gwarchodwyr gàn ddychryn, ac á aethant fel rhai meirw. Ond yr angel á ddywedodd wrth y gwragedd, Nac ofnwch chwi; canys mi á wn mai ceisio yr ydych Iesu yr hwn á groeshoeliwyd. Nid yw efe yma; oblegid cyfododd, megys y rhagddywedodd. Deuwch, gwelwch y fàn lle y gorweddodd yr Arglwydd. Ac ewch àr ffrwst, dywedwch wrth ei ddysgyblion ef, Y mae efe gwedi cyfodi o feirw; wele y mae efe yn myned o’ch blaen chwi i Alilëa, lle y cewch ei weled ef. Sylẅwch: mi á ddywedais i chwi.