Matthew Lefi 28

28
1-7Gwedi myned y Seibiaeth drosodd, a’r dydd cyntaf o’r wythnos yn dechreu gwawrio, Mair y Fagdalëad a’r Fair arall, á aethant i weled y beddrawd. Ac yr oedd daiargryn fawr wedi bod yno: canys angel i’r Arglwydd á ddisgynasai o’r nef, yr hwn, wedi iddo dreiglo y maen oddwrth y drws, á eisteddodd arno. Ei wynebpryd oedd fel mellten, a’i wisg yn wen fel eira. Wrth yr olwg arno, crynodd y gwarchodwyr gàn ddychryn, ac á aethant fel rhai meirw. Ond yr angel á ddywedodd wrth y gwragedd, Nac ofnwch chwi; canys mi á wn mai ceisio yr ydych Iesu yr hwn á groeshoeliwyd. Nid yw efe yma; oblegid cyfododd, megys y rhagddywedodd. Deuwch, gwelwch y fàn lle y gorweddodd yr Arglwydd. Ac ewch àr ffrwst, dywedwch wrth ei ddysgyblion ef, Y mae efe gwedi cyfodi o feirw; wele y mae efe yn myned o’ch blaen chwi i Alilëa, lle y cewch ei weled ef. Sylẅwch: mi á ddywedais i chwi.
8-10Yn ddioed hwy á aethant oddwrth y tomawd gydag ofn a llawenydd mawr, ac á redasant i fynegi iddei ddysgyblion ef. Wedi eu myned, Iesu ei hun á gyfarfu á hwynt, gàn ddywedyd, Llawenewch. Ar hyny hwy á ymgrymasant o’i flaen, ac á gofleidiasant ei draed ef. Yna Iesu á ddywedodd wrthynt, Nac ofnwch: ewch, mynegwch i’m brodyr, fel yr elont i Alilea, ac yno y cânt fy ngweled i.
11-15Cygynted ag yr aethant, rhai o’r gwarchodwyr á ddaethant i’r ddinas, ac á fynegasant i’r archoffeiriaid yr hyn oll à ddygwyddasai. Y rhai hyn, wedi ymgynnull ac ymgynghori â’r henuriaid, á roddasant sum mawr o arian i’r milwyr, gyda’r gorchymyn hwn; Dywedwch, ei ddysgyblion á ddaethant o hyd nos, ac á’i lladratasant ef, tra yr oeddym ni yn cysgu. Ac os clyw y rhaglaw hyn, ni á’i dyhuddwn ef, ac á’ch gwnawn chwi yn ddiofal. Felly y cymerasant yr arian, ac á wnaethant megys yr addysgwyd hwynt. Yna ganlynol y mae y chwedl hon yn cael ei thaenu yn mhlith yr Iuddewon hyd heddyw.
16-20A’r un dysgybl àr ddeg á aethant i Alilea, i’r mynydd lle y trefnasai Iesu iddynt fyned. Pan welsant ef, hwy á ymgrymasant o’i flaen ef; eto rhai á ammheuasant. Iesu á nesâodd, ac á ddywedodd wrthynt, Rhoddwyd i mi bob awdurdod yn y nef ac àr y ddaiar; ewch, dychwelwch yr holl genedloedd, gàn eu trochi hwynt i enw y Tad, a’r Mab, a’r Ysbryd Glan: gàn ddysgu iddynt gadw pob peth à orchymynais i chwi; ac wele! yr ydwyf fi gyda chwi bob amser, hyd ddybeniad y cyflwr hwn.

Currently Selected:

Matthew Lefi 28: CJW

Označeno

Deli

Kopiraj

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in