Matthew Lefi 28:11-15

Matthew Lefi 28:11-15 CJW

Cygynted ag yr aethant, rhai o’r gwarchodwyr á ddaethant i’r ddinas, ac á fynegasant i’r archoffeiriaid yr hyn oll à ddygwyddasai. Y rhai hyn, wedi ymgynnull ac ymgynghori â’r henuriaid, á roddasant sum mawr o arian i’r milwyr, gyda’r gorchymyn hwn; Dywedwch, ei ddysgyblion á ddaethant o hyd nos, ac á’i lladratasant ef, tra yr oeddym ni yn cysgu. Ac os clyw y rhaglaw hyn, ni á’i dyhuddwn ef, ac á’ch gwnawn chwi yn ddiofal. Felly y cymerasant yr arian, ac á wnaethant megys yr addysgwyd hwynt. Yna ganlynol y mae y chwedl hon yn cael ei thaenu yn mhlith yr Iuddewon hyd heddyw.