Fel yr ysgrifenwyd yn Isaia y Proffwyd, “Wele yr wyf yn anfon fy nghènad o’th flaen, yr hwn á barotöa dy ffordd;” “Llef un yn cyhoeddi yn y diffeithwch, Parotowch ffordd i’r Arglwydd, gwnewch iddo fynedfa uniawn;” fel hyn y daeth Iöan gàn drochi yn y diffeithwch, a chyhoeddi trochiad diwygiad èr maddeuant pechodau. A holl wlad Iuwdea, a thrigolion Caersalem á ddaethant ato, ac á drochwyd ganddo yn afon yr Iorddonen, gàn gyffesu eu pechodau. Ac Iöan oedd â’i ddillad o flew cammarch, wedi eu rhwymo o gylch ei wasg â gwregys lledr; ac yr oedd yn byw àr locustiaid a mel gwyllt. Ac efe á gyhoeddai, gàn ddywedyd, Y mae yn dyfod àr fy ol i un cryfach na myfi, càrai esgid yr hwn nid ydwyf deilwng i ymostwng a’i dattod. Myfi, yn wir, a’ch trochais chwi mewn dwfr; ond efe á’ch trocha chwi yn yr Ysbryd Glan.