Ioan Marc 1:16-20
Ioan Marc 1:16-20 CJW
Yna wrth rodio gèr môr Galilëa, efe a welai Simon, ac Andreas, brawd Simon, yn taflu tynrwyd i’r môr, canys pysgodwyr oeddynt. Iesu á ddywedodd wrthynt, Deuwch gyda mi, a mi á wnaf i chwi fod yn bysgodwyr dynion. Yn ddiattreg hwy a adawsant eu rhwydau, ac á’i canlynasant ef. Wedi myned ychydig yn mlaen, a gweled Iägo, mab Zebedëus, gydag Iöan ei frawd, mewn llong yn cyweirio eu rhwydau; yn y fàn efe á’u galwodd hwynt; a chàn adael Zebedëus eu tad yn y llong gyda ’r cyflogweision, hwy á’i canlynasant ef.