Matthew Lefi 28:16-20

Matthew Lefi 28:16-20 CJW

A’r un dysgybl àr ddeg á aethant i Alilea, i’r mynydd lle y trefnasai Iesu iddynt fyned. Pan welsant ef, hwy á ymgrymasant o’i flaen ef; eto rhai á ammheuasant. Iesu á nesâodd, ac á ddywedodd wrthynt, Rhoddwyd i mi bob awdurdod yn y nef ac àr y ddaiar; ewch, dychwelwch yr holl genedloedd, gàn eu trochi hwynt i enw y Tad, a’r Mab, a’r Ysbryd Glan: gàn ddysgu iddynt gadw pob peth à orchymynais i chwi; ac wele! yr ydwyf fi gyda chwi bob amser, hyd ddybeniad y cyflwr hwn.