Ac yr oedd y rhaglaw yn arfer rhyddâu, àr yr ŵyl, ryw un o’r carcharorion, à ofynai y lliaws. Ac yr oedd ganddynt y pryd hwnw garcharor hynod â’i enw Barabbas. Am hyny, gwedi iddynt ymgynnull yn nghyd, Pilat á ddywedodd wrthynt, Pwy á fýnwch i mi ei ryddâu i chwi? Barabbas, ynte Iesu, yr hwn á elwir Messia? (Oblegid efe á ganfyddai mai drwy genfigen y traddodasent ef; hefyd, tra yr ydoedd efe yn eistedd àr y frawdfainc, ei wraig á ddanfonodd ato y gènadwri hon, Na fydded i ti à wnelych â’r gwirion hwnw; oblegid mi á ddyoddefais lawer, heddyw, mewn breuddwyd o’i achos ef.) Ond yr archoffeiriaid a’r henuriaid á gymhellasant y lliaws i ofyn Barabbas, a pheru i Iesu gael ei ddienyddu. Am hyny, pan ofynodd y rhaglaw, pa un o’r ddau á ryddâai efe, hwy á atebasant oll, Barabbas. Pilat á atebodd, Pa beth ynte á wnaf i Iesu, yr hwn á alwant Messia? Hwythau á atebasat oll, Croeshoelier ef. Dywedodd y rhaglaw, Paham? Pa ddrwg á wnaeth efe? Ond hwy á waeddasant yn uwch, gàn ddywedyd, Croeshoelier ef. Pilat, pan ganfu nad oedd dim yn tycio, ond eu bod yn myned yn fwy terfysglyd, á gymerodd ddwfr, ac á olchodd ei ddwylaw gèr gwydd y lliaws, gàn ddywedyd, Dieuog wyf fi oddwrth waed y gwirion hwn. Edrychwch chwi at hyny. A’r holl bobl gàn ateb, á ddywedasant, Bydded ei waed ef arnom ni, ac àr ein plant. Yna y rhyddâodd efe Farabbas iddynt, a gwedi peru i Iesu gael ei fflangellu, efe á’i traddododd ef iddynt iddei groeshoelio.