Yna yr aeth Iesu gyda hwynt i le à elwid Gethsemane, ac á ddywedodd wrth ei ddysgyblion, Aroswch chwi yma, tra yr elwyf fi acw a gweddio. Ac efe á gymerodd gydag ef Bedr, a dau fab Zebedëus; ac efe yn cael ei lethu gàn ofid, á ddywedodd wrthynt, Y mae fy enaid wedi ei orchwyo â gloes angeuol; aroswch yma, a gwyliwch gyda mi. A gwedi myned ychydig yn mlaen, efe á ymdaflodd àr ei wyneb, a chàn weddio, á ddywedodd, Fy Nhad, symud oddwrthyf y cwpan hwn, os galluadwy yw; èr hyny, nid fel yr wyf fi yn ewyllysio, ond fel yr wyt ti. Ac efe á ddychwelodd at ei ddysgyblion, a phan y cafodd hwynt yn cysgu, efe á ddywedodd wrth Bedr, Ai felly y mae, na allwch fod yn effro gyda mi un awr? Gwyliwch a gweddiwch, na byddo i chwi gael eich gorchfygu gàn brofedigaeth; yr ysbryd yn ddiau sy barod, ond y cnawd sydd wan. Efe á giliodd eilwaith ac á weddiodd, gàn ddywedyd, O fy Nhad, os nad all y cwpan hwn fyned heibio oddwrthyf, fel nad yfwyf ef, dy ewyllys di á wneler. Ar ei ddychweliad, efe á’u cafodd hwynt drachefn yn cysgu, (canys yr oedd eu llygaid wedi eu gorchfygu.) Drachefn, efe á’u gadawodd hwynt, á aeth, ac á weddiodd y drydedd waith, gàn arfer yr un geiriau. Yna efe á ddaeth yn ol at ei ddysgyblion, ac á ddywedodd wrthynt, A ydych chwi yn cysgu o hyd, ac yn gorphwyso? Wele y mae yr awr yn nesâu, pan draddodir Mab y Dyn i ddwylaw pechaduriaid. Cyfodwch, awn: wele! y mae yr hwn sydd yn fy mradychu gerllaw.