Matthew Lefi 26
26
DOSBARTH XIV.
Y #26:0 Swper.Cwynos diweddaf.
1-5Gwedi i Iesu ddybenu yr ymadrawdd hwn, efe á ddywedodd wrth ei ddysgyblion, Gwyddoch mai gwedi deuddydd y daw y pasc. Yna Mab y Dyn á draddodir iddei groeshoelio. Yn nghylch y pryd hwn yr oedd yr archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion, a henuriaid y bobl wedi dyfod yn nghyd i lys Caiaphas yr archoffeiriad, lle yr ymgynghorent pa fodd y dalient Iesu drwy ddichell, ac y lladdent ef. Dywedasant, pa fodd bynag, Nid yn ystod yr ŵyl, rhag bod terfysg yn mhlith y bobl.
6-13Ac â Iesu yn Methania, yn nhŷ Simon, gynt y gwahanglwyfus, daeth ato wraig â chanddi flwch alabastr o enaint tragwerthfawr, yr hwn á dywalltodd hi àr ei ben ef, tra yr ydoedd efe wrth y bwrdd. Ei ddysgyblion ef wedi gweled hyn, á ddywedasant yn ddigllonus, I ba beth y gwnaed y gwastraff hwn? Gallasid gwerthu hwn am bris mawr, a rhoddi yr arian i’r tylodion. Iesu gwedi gwybod hyn, á ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych yn blino y wraig? Hi á wnaeth gymwynas â mi. Canys y mae genych y tylodion bob amser yn eich plith, ond myfi nid oes genych bob amser. Oblegid i’m heneinio y tywalltodd hi yr enaint hwn àr fy nghorff. Yn wir, meddaf i chwi, pa le bynag o’r byd y pregethir yr efengyl, yr hyn á wnaeth y wraig hon yn awr, á grybwyllir èr anrhydedd iddi.
14-16Yna un o’r deuarddeg, à elwid Iuwdas Iscariot, á aeth at yr archoffeiriaid, ac á ddywedodd, Pa beth á roddwch i mi, a mi á’i traddodaf ef i chwi? A hwy á bwysasant iddo ddeg sicl àr ugain. Ac o’r pryd hwnw y gwyliai efe am #26:14 Amser cyfaddas.arfod iddei draddodi ef.
17-19Ac àr ddydd cyntaf y bara croew, y dysgyblion á ddaethant at Iesu, gàn ddywedyd, Pa le y parotown i ti i fwyta y pasc? Yntau á atebodd, Ewch i’r ddinas, at y cyfryw ddyn, a dywedwch wrtho, Y mae yr Athraw yn dywedyd, Fy amser sydd agos; rhaid i mi gadw y pasc yn dy dŷ di gyda fy nysgyblion. A’r dysgyblion á wnaethant fel yr archwyd iddynt, ac á barotoisant y pasc.
20-25Yn yr hwyr, efe á osododd ei hun wrth y bwrdd gyda ’r deuarddeg; a thra yr oeddynt yn bwyta, efe á ddywedodd, Yn wir, yr wyf yn dywedyd wrthych, y bradycha un o honoch fi. A hwythau yn drist iawn, á ddechreuasant bob un o honynt ddywedyd, Feistr, Ai myfi yw? Yntau gàn ateb, á ddywedodd, Y sawl sydd â’i law yn y ddysgl gyda ’r eiddof fi, hwnw á’m bradycha i. Mab y Dyn sydd yn myned ymaith megys y rhagddywedwyd yn yr ysgrythyr am dano; ond gwae y dyn hwnw, gàn yr hwn y bradychir Mab y Dyn! Gwell fuasai i’r dyn hwnw fod heb ei eni erioed. Yna Iuwdas, yr hwn á’i bradychodd ef, á ddywedodd hefyd, Rabbi, ai myfi yw? Iesu á atebodd, Ië.
26-30Fel yr oeddynt yn bwyta, Iesu á gymerodd y dorth; a gwedi rhoddi diolch, á’i tòrodd; ac á’i rhoddes i’r dysgyblion, ac á ddywedodd, Cymerwch, bwytewch: hwn yw fy nghorff. Yna y cymerodd efe y cwpan, a gwedi iddo ddiolch, á’i rhoddes iddynt, gàn ddywedyd, Yfwch bawb o hwn; canys hwn yw fy ngwaed, gwaed y sefydliad newydd, tywalltedig dros lawer èr maddeuant pechodau. Yr wyf yn sicrâu i chwi, nad yfaf o hyn allan o gynnyrch y winwydden, hyd y dydd yr yfaf ef yn newydd gyda chwi yn nheyrnas fy Nhad. A gwedi yr emyn, hwy á aethant allan i fynydd yr Oleẅwydd.
31-35Yna Iesu á ddywedodd wrthynt, Y nos hon y byddaf yn dramgwyddfa i chwi oll; canys ysgrifenwyd, “Tarawaf y Bugail, a’r praidd á wasgerir.” Ond wedi i mi gyfodi drachefn, mi á âf o’ch blaen chwi i Alilëa. Yna Pedr á ddywedodd wrtho, Pe byddit yn dramgwyddfa iddynt oll, ni wneir i mi byth dramgwyddo. Iesu a atebodd, Yn wir, yr wyf yn dywedyd i ti, mai y nos hon, cyn canu o’r ceiliog, ym gwedi deirgwaith. Pedr á atebodd, Pe gorfyddai i mi farw gyda thi, ni’th wadaf byth. A’r holl ddysgyblion á ddywedasant yr un peth.
36-46Yna yr aeth Iesu gyda hwynt i le à elwid Gethsemane, ac á ddywedodd wrth ei ddysgyblion, Aroswch chwi yma, tra yr elwyf fi acw a gweddio. Ac efe á gymerodd gydag ef Bedr, a dau fab Zebedëus; ac efe yn cael ei lethu gàn ofid, á ddywedodd wrthynt, Y mae fy enaid wedi ei orchwyo â gloes angeuol; aroswch yma, a gwyliwch gyda mi. A gwedi myned ychydig yn mlaen, efe á ymdaflodd àr ei wyneb, a chàn weddio, á ddywedodd, Fy Nhad, symud oddwrthyf y cwpan hwn, os galluadwy yw; èr hyny, nid fel yr wyf fi yn ewyllysio, ond fel yr wyt ti. Ac efe á ddychwelodd at ei ddysgyblion, a phan y cafodd hwynt yn cysgu, efe á ddywedodd wrth Bedr, Ai felly y mae, na allwch fod yn effro gyda mi un awr? Gwyliwch a gweddiwch, na byddo i chwi gael eich gorchfygu gàn brofedigaeth; yr ysbryd yn ddiau sy barod, ond y cnawd sydd wan. Efe á giliodd eilwaith ac á weddiodd, gàn ddywedyd, O fy Nhad, os nad all y cwpan hwn fyned heibio oddwrthyf, fel nad yfwyf ef, dy ewyllys di á wneler. Ar ei ddychweliad, efe á’u cafodd hwynt drachefn yn cysgu, (canys yr oedd eu llygaid wedi eu gorchfygu.) Drachefn, efe á’u gadawodd hwynt, á aeth, ac á weddiodd y drydedd waith, gàn arfer yr un geiriau. Yna efe á ddaeth yn ol at ei ddysgyblion, ac á ddywedodd wrthynt, A ydych chwi yn cysgu o hyd, ac yn gorphwyso? Wele y mae yr awr yn nesâu, pan draddodir Mab y Dyn i ddwylaw pechaduriaid. Cyfodwch, awn: wele! y mae yr hwn sydd yn fy mradychu gerllaw.
47-56Cyn iddo orphen llefaru, Iuwdas, un o’r deuarddeg, á ddaeth gyda thyrfa fawr, wedi eu harfogi â chleddyfau a ffyn, a’u hanfon gàn yr archoffeiriaid a henuriaid y bobl. A’r bradychwr á roddasai iddynt arwydd, gàn ddywedyd Pa un bynag á gusanwyf, hwnw yw efe! deliwch ef. Ac efe á ddaeth yn uniawn at Iesu, ac á ddywedodd, Hanbych well, Rabbi, ac á’i cusanodd ef. Iesu á atebodd, Gyfaill, i ba beth y daethost? Yna y daethant yn mlaen, a chàn osod eu dwylaw àr Iesu, á’i daliasant ef. Ar hyn, un o gymdeithion Iesu gwedi dodi ei law àr ei gleddyf, á’i tỳnodd ef; a chàn daro gwas yr archoffeiriaid, efe á dórodd ei glust ef. Iesu á ddywedodd wrtho, Dod dy gleddyf yn y wain; canys pwybynag á gymero gleddyf á syrth drwy y cleddyf. A wyt ti yn tybied nas gallaf yr awrhon alw àr fy Nhad, yr hwn á anfonai i’m cymhorth fwy na deg a dwy leng o angylion? Ond pe felly, pa fodd y cyflawnid yr Ysgrythyrau, y rhai á fynegant bod yn raid i’r pethau hyn fod? Yna gwedi troi at y dyrfa, efe á ddywedodd, A ydych chwi yn dyfod gyda chleddyfau a ffyn i ’m dal i, fel rhai yn erlid àr ol ysbeiliwr? Yr oeddwn i beunydd yn eistedd yn eich mysg chwi, yn dysgu yn y deml, a ni ddaliasoch fi. Eithr hyn oll á ddygwyddodd, fel y cyflawnid ysgrifeniadau y Proffwydi. Yna yr holl ddysgyblion á’i gadawsant ef, ac á ffoisant.
DOSBARTH XV.
Y Croeshoeliad.
57-58A’r rhai à ddaliasent Iesu, á’i dygasant ef at Gaiaphas yr archoffeiriad, gyda ’r hwn yr oedd yr ysgrifenyddion a’r henuriaid wedi ymgynnull. Eithr Pedr á’i canlynodd ef o hirbell, i gyntedd tŷ yr archoffeiriad, a gwedi myned i fewn, á eisteddodd gyda ’r swyddogion i weled y diwedd.
59-67Yn y cyfamser yr archoffeiriaid a’r henuriaid, a’r holl Sanhedrim, á geisiasant #26:59 Camdystiolaeth; false evidence.eubrawf yn erbyn Iesu, wrth yr hwn y gallent ei gollfarnu ef i farw. Ond èr i eudystion lawer ymddangos, ni chawsant. O’r diwedd daeth dau eudyst, y rhai á’i cyhuddent ef o ddywedyd, Mi á allaf ddinystrio teml Duw, a’i hailadeiladu mewn tridiau. Yna y cyfododd yr archoffeiriad, ac á ddywedodd, wrtho, A atebi di ddim i’r peth y mae y rhai hyn yn ei dystiolaethu yn dy erbyn? Ac Iesu yn parâu yn ddystaw, efe á chwanegodd, Yr wyf yn dy dyngedu drwy y Duw byw, i ddywedyd wrthym, ai ti yw y Messia, Mab Duw. Iesu á’i hatebodd ef, Fel yr wyt yn dywedyd y mae; yn mhellach yr wyf yn dywedyd i chwi, y gwelwch, àr ol hyn Fab y Dyn, yn eistedd àr ddeheulaw yr Hollalluog, ac yn dyfod àr gymylau y Nef. Yna yr archoffeiriad, gan rwygo ei ddillad, á ddywedodd, Efe á gablodd. Pa raid i ni mwyach wrth dystion, gàn i chwi ei glywed ef yn cablu? Beth dybygwch chwi? Hwy a atebasant, Y mae efe yn haeddu marw. Yna y poerasant yn ei wyneb. Rhai á’i cernodiasant, ac ereill á’i tarawsant àr ei rudd, ac á ddywedasant, Dewinia i ni, Fessia, pwy á’th darawodd.
68-75A Phedr oedd yn eistedd allan yn y cyntedd, a daeth morwyn ato, ac á ddywedodd, Yr oeddit tithau hefyd gydag Iesu y Galilëad. Ond efe á wadodd yn eu gwydd hwynt oll, gàn ddywedyd, Nid ydwyf yn gwybod dim am y mater. A fel yr oedd efe yn myned allan i’r porth, morwyn arall á’i canfu ef, ac á ddywedodd wrthynt, Yr oedd hwn hefyd gydag Iesu y Nasarethiad. Yntau á wadodd eilwaith, gàn dyngu nad adwaenai efe mo hono. Yn fuan gwedi, rhai o’r sawl à safent gerllaw á ddywedasant wrth Bedr, Y mae yn sicr dy fod yn un o honynt, oblegid y mae dy lafarwedd yn dy ddadguddio. Ar hyny, efe á haerodd drwy regfëydd a llẅon, nad adawenai efe mo hono; ac yn y fàn, canodd y ceiliog. Yna y cofiodd Pedr y gair, à ddywedasai Iesu wrtho, Cyn canu o’r ceiliog, ti á ’m gwedi deirgwaith. Ac efe á aeth allan ac á wylodd yn chwerwdost.
Currently Selected:
Matthew Lefi 26: CJW
Označeno
Deli
Kopiraj
![None](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2F58%2Fhttps%3A%2F%2Fweb-assets.youversion.com%2Fapp-icons%2Fsl.png&w=128&q=75)
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Yr Oraclau Bywiol gan John Williams 1842. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.