Matthew Lefi 26:26-30

Matthew Lefi 26:26-30 CJW

Fel yr oeddynt yn bwyta, Iesu á gymerodd y dorth; a gwedi rhoddi diolch, á’i tòrodd; ac á’i rhoddes i’r dysgyblion, ac á ddywedodd, Cymerwch, bwytewch: hwn yw fy nghorff. Yna y cymerodd efe y cwpan, a gwedi iddo ddiolch, á’i rhoddes iddynt, gàn ddywedyd, Yfwch bawb o hwn; canys hwn yw fy ngwaed, gwaed y sefydliad newydd, tywalltedig dros lawer èr maddeuant pechodau. Yr wyf yn sicrâu i chwi, nad yfaf o hyn allan o gynnyrch y winwydden, hyd y dydd yr yfaf ef yn newydd gyda chwi yn nheyrnas fy Nhad. A gwedi yr emyn, hwy á aethant allan i fynydd yr Oleẅwydd.