Matthew Lefi 26:68-75

Matthew Lefi 26:68-75 CJW

A Phedr oedd yn eistedd allan yn y cyntedd, a daeth morwyn ato, ac á ddywedodd, Yr oeddit tithau hefyd gydag Iesu y Galilëad. Ond efe á wadodd yn eu gwydd hwynt oll, gàn ddywedyd, Nid ydwyf yn gwybod dim am y mater. A fel yr oedd efe yn myned allan i’r porth, morwyn arall á’i canfu ef, ac á ddywedodd wrthynt, Yr oedd hwn hefyd gydag Iesu y Nasarethiad. Yntau á wadodd eilwaith, gàn dyngu nad adwaenai efe mo hono. Yn fuan gwedi, rhai o’r sawl à safent gerllaw á ddywedasant wrth Bedr, Y mae yn sicr dy fod yn un o honynt, oblegid y mae dy lafarwedd yn dy ddadguddio. Ar hyny, efe á haerodd drwy regfëydd a llẅon, nad adawenai efe mo hono; ac yn y fàn, canodd y ceiliog. Yna y cofiodd Pedr y gair, à ddywedasai Iesu wrtho, Cyn canu o’r ceiliog, ti á ’m gwedi deirgwaith. Ac efe á aeth allan ac á wylodd yn chwerwdost.