Pwy yw Iesu?Sampl
Y Torthau a’r Pysgod
Wyt ti wedi gweld y ffilm Disney, “The Prince of Egypt?”
Dw i am fod yn onest— dydy e ddim fel Aladdin.
Roedd y Lion King yn well ffilm hyd yn oed.
Ond, nid yn annhebyg i’r Lion King, roedd y Prince of Egypt yn fras seiliedig ar stori go iawn yn y Beibl.- hanes yr Exodus.
Yn llyfr Exodus yn yr Hen Destament, mae Duw yn defnyddio Moses i waredu Ei bobl rhag caethwasiaeth yn yr Aifft. Yna mae'r Israeliaid yn cael eu hunain yn crwydro trwy'r anialwch yn flinedig, yn fudr, ac yn newynog. Maen nhw'n cwyno am ddiffyg bwyd felly mae Duw yn anfon “manna” o'r nefoedd, a olygai yn yr iaith Hebraeg, "Beth yw e?"
Mae’r naratif hwn yn rhan allweddol o’r Stori Feiblaidd.
Ond falle dy fod yn gofyn, “beth sydd gan yr Exodus i’w wneud â’r stori dw i newydd ei darllen yn yr Efengylau?”
Mae’r ateb i’w gael yn y bara.
Yn Ioan 6 mae'r bobl yn cael eu hunain yn yr anialwch heb fwyd. Mae Iesu'n edrych i fyny i'r nef mewn gweddi, a bara yn wyrthiol, yn cael ei ddarparu
Ydy hynny'n swnio braidd yn gyfarwydd?
Unwaith eto mae gennym ni fara yn cael ei ddarparu’n wyrthiol i bobl Dduw yn yr anialwch.
Felly beth mae hyn yn ei ddweud wrthym am hunaniaeth Iesu yng nghyd-destun cynllun Duw sy’n datblygu mewn hanes?
Sgwennodd Moses am broffwyd mwy nag ef ei hun, arweinydd rhyfeddol a chynrychiolydd dros Dduw, a oedd yn dod yn y dyfodol. Mae Iesu'n cyflawni'r addewid hwnnw ac yn dod ag achubiaeth gymaint yn fwy. Bydd Iesu fel Moses newydd sy’n arwain Exodus newydd i achub pobl Dduw rhag ein caethiwed i bechod. Ac, fel Gwaredwr addawyd gan Dduw, bydd yn arwain ei bobl i Wlad yr Addewid eithaf, nefoedd newydd a daear newydd Duw, ac yn darparu maeth ysbrydol i gynnal ei bobl hyd y diwrnod hwnnw!
Mae’r stori dŷn ni newydd ei darllen hefyd yn rhoi enghraifft inni o Dduw yn gwahodd pobl fel ni i fod yn rhan o’i gynllun.
Gallai'r bachgen dienw hwn fod wedi hel celc o fwyd iddo'i hun. Gallai fod wedi cadw ei bryd, ond byddai wedi methu gwyrth Duw. Yn hytrach roedd yn llawagored a hael, a oedd yn caniatáu iddo fod yn rhan o rywbeth mwy nag ef ei hun!
Paid â cholli allan ar yr hyn y mae Duw yn ei wneud yn y byd oherwydd bod dy galon a'th ddwylo ar gau iddo ac i bobl eraill. Paid â chyfnewid gwyrth am bryd o fwyd blasus, na sicrwydd uniongyrchol am effaith hirdymor yn nheyrnas Dduw.
Yn lle hynny, gofynna i ti dy hun, beth sydd yn dy ddwylo di? Pa ddoniau, doniau, galluoedd ac adnoddau y mae Duw wedi eu rhoi i ti? Falle nad yw'n edrych fel llawer, ond nid oes angen llawer ar ein Duw i wneud gwyrth - dim ond pum torth a dau bysgodyn sydd ei angen arno.
Mewn geiriau eraill, dim ond yr hyn sydd yn dy ddwylo di sydd ei angen arno.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Iesu yw'r ffigwr canolog yn y ffydd Gristnogol, ac mae'r cynllun 5 diwrnod hwn yn edrych yn ddyfnach ar bwy yw e: maddeuwr pechodau, ffrind pechaduriaid, y golau, un sy'n cyflawni gwyrthiau, Arglwydd atgyfodedig.
More