Pwy yw Iesu?Sampl
Stori’r dyn oedd wedi’i barlysu: Iesu sy’n maddau pechodau
Pe bae ti'n gallu bod yn archarwr, beth fyddai dy bŵer mawr? Mae hwn yn gwestiwn pwysig felly meddylia’n ofalus cyn ateb.
Hedfan?
Bod yn anweledig?
Rheoli meddyliau?
Cadarnrwydd?
Peth be bai dewis i gael “pob un o’r uchod?
Ar yr wyneb, mae’n debyg bod ein diddordeb mewn archarwyr yn ymwneud â’n hawydd i gael ein diddanu a dianc rhag brwydrau bywyd bob dydd. Ond ar lefel ddyfnach o lawer, falle ein bod wedi ein swyno gan archarwyr oherwydd ein hiraeth dynol cynhenid am achubiaeth, a chael ein hudo gan y gallu i gael pŵer y tu hwnt i'r hyn sy'n bosibl fel arfer.
Nawr nid archarwr oedd Iesu yn ystyr “Marvel” y gair, ond wrth ddarllen yr Efengylau cawn fod gan Iesu allu gwyrthiol y tu hwnt i’r hyn oedd yn arferol, fel iachau’r claf a bwrw allan gythreuliaid, ac o ganlyniad, denodd Iesu dyrfa, a lledodd si am ei allu fel tân gwyllt.
Yn y stori hon mae pedwar dyn yn clywed si am y gweithiwr gwyrthiol hwn, ac yn mynd ar daith i'w weld. Maen nhw'n benderfynol o ddod â'u ffrind dioddefus at Iesu, ond yn gyflym iawn maen nhw'n dod ar draws wal o bobl.
”... yn methu mynd yn agos at Iesu am fod yno gymaint o dyrfa. Felly dyma nhw'n torri twll yn y to uwch ei ben, a gollwng y dyn i lawr ar y fatras oedd yn gorwedd arni.” (adn. 4).
Gad i ni oedi am funud.
Wnaeth y pedwar yma ddifrodi tŷ rhywun!
Diolch byth mae Iesu’n anwybyddu’r difrod wnaethon nhw’n o’r eiddo ac yn dweud wrth yr un oedd wedi’i barlysu, “Ffrind, mae dy bechodau wedi'u maddau.” ac yna mae Iesu yn iacháu ei goesau. Mae’r dyrfa wedi syfrdanu, ond mae’r arweinwyr crefyddol yn cwestiynu yn eu calonnau, “Sut mae'n gallu dweud y fath beth?,,,,,, Duw ydy'r unig un sy'n gallu maddau pechodau!”
Yr unig un sy’n gallu maddau pob pechod yw’r un sydd wedi cael ei siomi gan bob pechod - sef Duw, ei Hun.
Unwaith eto mae’r stori hon yn rhoi syniad i ni o hunaniaeth Iesu. Yn y stori hon mae Iesu yn siarad ac yn gweithredu yn lle Duw heb ymddiheuriad. Mae Iesu hyd yn oed yn cynhyrchu tystiolaeth o'i awdurdod dwyfol i faddau pechodau trwy gyflawni gwyrth. Mewn geiriau eraill, mae'r stori hon yn dweud wrthym mai Iesu yw Duw!
Falle nad ydyn ni wedi ein parlysu'n gorfforol fel y dyn yn y stori hon.
Ond ar lefel bersonol dŷn ni i gyd wedi gwneud camgymeriadau, ac mae rhai ohonom yn teimlo ein bod wedi ein parlysu gan ein cywilydd, ein hofnau a’n hannigonolrwydd. Efallai y bydd ein coesau'n gweithio'n iawn, ond mae ein bywydau'n dal i deimlo wedi torri oherwydd bod ein problem ddyfnaf bob amser yn ysbrydol cyn ei bod yn gorfforol.
Ein hangen dyfnaf yw cael maddeuant a chymodi â’n crëwr - i brofi nerth iachusol cariad Duw wrth iddo dreiddio i’n holl ansicrwydd a’n gwneud yn gyfan.
Nid archarwr o ryw ffilm ydy Iesu.
Mae Iesu yn ffaith.
Ac y mae pethau prydferth yn digwydd pan wyt ti’n nesáu at Iesu: mae e’n iachau cyrff, iachau calonnau, tawelu ofnau, geni gobaith, a chael gwaredu o gywilydd.
Felly, a fyddwn ni'n enwi ein pechodau ac yn caniatáu i Iesu faddau i ni a'n rhyddhau ni? Yn fwy na hynny, ydyn ni’n trystio y gall Iesu wneud hyn dros ein ffrindiau? Ac, os felly, ydyn ni’n fodlon gwneud beth bynnag sydd ei angen i’w gyflwyno i’n ffrindiau i Iesu?
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Iesu yw'r ffigwr canolog yn y ffydd Gristnogol, ac mae'r cynllun 5 diwrnod hwn yn edrych yn ddyfnach ar bwy yw e: maddeuwr pechodau, ffrind pechaduriaid, y golau, un sy'n cyflawni gwyrthiau, Arglwydd atgyfodedig.
More