Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Pwy yw Iesu?Sampl

Who Is Jesus?

DYDD 3 O 5

Iesu ydy’r Golau

Wyt ti erioed wedi ofni’r tywyllwch?

Wyt ti dal i gysgu gyda golau bach yn y nos?

Paid bod ofn cyfaddef. Mae hwn yn lle diogel..

Mae yna rywbeth am dywyllwch dudew a all anfon oerfel i lawr ein cefn a'n gadael yn teimlo'n ddryslyd.

Pan mae ofn y tywyllwch arnat ti rwyt ti’n dysgu i garu’r golau.

Mae golau yn goleuo ein hamgylchedd. Mae golau yn dangos i ni ble i osod ein traed. Mae golau yn ein galluogi i edmygu'r rhai dŷn ni'n eu caru. Mae goleuni yn angenrheidiol ar gyfer bywyd, yn fiolegol ac yn ysbrydol.

Yn y Beibl, defnyddir goleuni yn aml fel symbol ar gyfer dealltwriaeth ddeallusol a phurdeb moesol. Mae cerdded yn y tywyllwch yn cyfeirio at fyw mewn gwrthryfel yn erbyn Duw a'i ewyllys e drosom ni, ond cerdded yn y golau yw mynd ar daith i ddarganfod pwy yw Duw a dysgu dilyn ar ei ôl. Ar gyfer hyn mae angen help Iesu arnom ni.

Yn y geiriau dŷn ni newydd ei ddarllen, mae Iesu'n honni mai ef yw goleuni'r byd!

Iesu yw ein goleuni ni sy'n goleuo wyneb Duw ac yn arwain ein llwybr i fywyd llawn.

Ac, nid Iesu yn unig yw goleuni'r byd; felly ydych chi! Yn Mathew 5:14 mae Iesu’n dweud wrth ei ddilynwyr, “Chi ydy'r golau sydd yn y byd.”

Os Iesu yw'r Mab, mae ei ddilynwyr i fod fel drychau sy'n adlewyrchu ei olau e.

Pan dŷn ni'n disgleirio cariad a gwirionedd Iesu yn ein hysgol, ein cartref, ac i’n cyfeilion, dŷn ni'n gwthio tywyllwch ein byd yn ôl; dŷn ni'n dod â gobaith a chariad yn enw Iesu, gan ymddiried y bydd pobl yn olrhain ein goleuni i'w ffynhonnell yn Iesu, ei hun!

Ddylai golau ddim cael ei guddio.

Mae golau yn perthyn allan yn yr awyr agored i bawb ei weld.

Diben goleuni yw chwalu'r tywyllwch.

Felly ym mha ffyrdd y gelli di ddod â goleuni cariad Duw i’th ysgol neu dy gartref trwy eiriau caredig a gweithredoedd da?

Ysgrythur

Diwrnod 2Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

Who Is Jesus?

Iesu yw'r ffigwr canolog yn y ffydd Gristnogol, ac mae'r cynllun 5 diwrnod hwn yn edrych yn ddyfnach ar bwy yw e: maddeuwr pechodau, ffrind pechaduriaid, y golau, un sy'n cyflawni gwyrthiau, Arglwydd atgyfodedig.

More

Daw’r cynllun hwn atoch ganm Alpha Youth Series, cyfres ryngweithiol 13-rhan sy’n archwilio cwestiynau mwyaf bywyd. Am fwy o fanylion dos i: http://alpha.org/youth