P[rofi Cyfeillgarwch gyda DuwSampl
![Experiencing Friendship With God](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F40702%2F1280x720.jpg&w=3840&q=75)
Cenhadaeth sy'n Canolbwyntio ar Bresenoldeb
Nid bywyd segur yw bywyd o Bresenoldeb. Nid yw’n cyrraedd uchafbwynt pan fyddwn yn fodlon ar ein hastudiaethau Beiblaidd a’n defosiynau boreol. Yn hytrach, mae'n ein gyrru i fyw allan ei genhadaeth ar y ddaear.
Bydd perthynas onest â’r Ysbryd Glân yn trawsnewid ein calonnau i guro fel un Crist. Cariad yw e, ac y mae ei adnabod e yn achosi inni garu eraill. Fel mae 1 Ioan 4:19-20 yn dweud, “Pwy bynnag sy’n dweud ei fod yn caru Duw ac eto ar yr un pryd yn casáu brawd neu chwaer, mae’n dweud celwydd. Os ydy rhywun ddim yn gallu caru Cristion arall mae’n ei weld, sut mae e’n gallu caru’r Duw dydy e erioed wedi’i weld? 21Dyma’r gorchymyn mae Duw wedi’i roi i ni: Rhaid i’r sawl sy’n ei garu e, garu ei gyd-Gristnogion hefyd.”
Os nad yw’r ffordd o fyw Gristnogol dŷn ni’n ei meithrin yn canolbwyntio ar Bresenoldeb, bydd yn dod yn hunanganolog. Cenhadaeth Cristion hunan-ganolog yw adeiladu bywyd da ar y ddaear. Mae Iesu, fodd bynnag, yn cynnig breuddwyd well inni. Cenhadaeth Cristion sy'n canolbwyntio ar Bresenoldeb yw mwynhau Duw tra'n dod ag eraill i mewn i'r cyfeillgarwch hefyd.
Mae Cyfeillion Duw yn cael eu gosod ar aseiniad sanctaidd i wneud pethau sydd y tu hwnt i’w gallu. Yn aml mae'n rhywbeth lletchwith, anghyfleus, neu hollol amhosibl.
Ar ôl i'r aseiniad gael ei roi, mae Duw yn cynnig y rhodd ohono’i hun inni. Nid yw'n treulio amser yn ein gwthio, yn edliw ein galluoedd nac yn anwesu ein hansicrwydd. Yn lle hynny, mae'n gwarantu ei gyfeillgarwch. Mae'r cyfeillgarwch hwn yn ein grymuso ar gyfer yr aseiniad.
Byddai Iesu wrth ei fodd yn defnyddio dy fywyd hardd i fendithio dy stryd, dy gymuned, hyd yn oed y byd. Nid ymarfer o dduwioldeb yn unig yw Ymarfer y Presenoldeb. Mae’n rhyddhau pŵer prynedigaethol Duw trwot ti ac i eraill. Mae ganddo genhadaeth ar y ddaear hon i gasglu ei blant i'w adnabod, ac fe'ch gelwir i bartneru ag e ar y genhadaeth honno.
Wyt ti we gdi dechrau synhwyro pa fath o genhadaeth sydd gan Dduw ar dyyfer di? Sut olwg sydd arno? Sut mae cyfeillgarwch â Duw yn rhan ohono?
Gobeithiwn fod y cynllun hwn wedi dy annog. Dysga fwy am Experiencing Friendship with God gan Faith Eury Cho yma.
Am y Cynllun hwn
![Experiencing Friendship With God](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F40702%2F1280x720.jpg&w=3840&q=75)
Wyt ti'i'n profi tymor anialwch, heb ddod o hyd i ddŵr na hafan i'th enaid? Beth petai gan y tymor hwn y gobaith mwyaf oll: i adnabod Presenoldeb Duw yn agos, yn ddilys, ac yn angerddol? Mae'r defosiwn hwn yn dy annog nad yw'r amser hwn yn cael ei wastraffu, er y teimli rai dyddiau nad wyt yn mynd i unman. Oherwydd waeth pa dir bynnag wyt ti'n ei droedio, mae Duw yn teithio gyda thi fel Cysurwr, Rhoddwr Bywyd, a Chyfaill.
More
Cynlluniau Tebyg
![Beth yw fy Mhwrpas? Dysgu i Garu Duw a Charu Eraill](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F50414%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Beth yw fy Mhwrpas? Dysgu i Garu Duw a Charu Eraill
![Coda a Dos Ati](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F43961%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Coda a Dos Ati
![Hadau: Beth a Pham](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F44130%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Hadau: Beth a Pham
![Dewiswyd — Datgelu'r Wraig yn Nghrist](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F44796%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Dewiswyd — Datgelu'r Wraig yn Nghrist
![Ymarfer y Ffordd](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F42239%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Ymarfer y Ffordd
![Llawenydd ar gyfer y Daith: Dod o Hyd i Obaith yng Nghanol y Treial](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F44485%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Llawenydd ar gyfer y Daith: Dod o Hyd i Obaith yng Nghanol y Treial
![P[rofi Cyfeillgarwch gyda Duw](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F40702%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
P[rofi Cyfeillgarwch gyda Duw
![Rhoi iddo e dy Bryder](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F48882%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Rhoi iddo e dy Bryder
![Ymrwymo dy Waith i'r Arglwydd](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F43442%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Ymrwymo dy Waith i'r Arglwydd
![Dwyt ti Heb Orffen Eto](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F40720%2F320x180.jpg&w=640&q=75)