Logo YouVersion
Eicon Chwilio

P[rofi Cyfeillgarwch gyda DuwSampl

Experiencing Friendship With God

DYDD 2 O 5

Ail Gyfle o Gyfeillgarwch

Roedden ni’n bob amser i fod i weithredu allan o gyfeillgarwch â Duw.

Ar ddechrau eu bodolaeth, cafodd Adda ac Efa ei cyflwyno â aseiniad. Dwedodd Duw wrthyn nhw, “Dw i eisiau i chi gael plant, fel bod mwy a mwy ohonoch chi. Llanwch y ddaear a defnyddiwch ei photensial hi; a bod yn feistr i ofalu am y pysgod sydd yn y môr, yr adar sy’n hedfan yn yr awyr, a’r holl greaduriaid sy’n byw ar y ddaear.” (Genesis 1:28). Doedd hyn ddim yn dasg bach i rhywun oedd prin wedi dechrau anadlu!

Eto roedd gyda Adda ac Efa fynediad at Dduw mewn ffordd mor blaen fel nad oedd ei weld e’n cerdded drwy’r ardd gyda hwyr y dydd yn beth rhyfedd (Genesis 3:8). Y mynediad uniongyrchol hwnnw oedd y ffynnon y dynnodd Adda ac Efa eu hysbrydoliaeth a'u cryfder i ehangu'r ardd a thyfu mewn awdurdod.

Yn anffodus, torrodd Adda ac Efa y cymundeb perffaith oedd ganddyn nhw â’r Tad. Ers hynny, dŷn ni wedi bod yn byw mewn byd syrthiedig lle mae dynoliaeth yn dal i geisio ehangu eu gerddi - ond heb Bresenoldeb Duw.

Diolch I Dduw, dydy ein tynged i wneud pethau mawr mewn cyfeillgarwch â Duw ddim wedi ei golli am byth. Filoedd o flynyddoedd arôl yr ardd, rhoddodd Iesu gomisiwn arall i’w ffrindiau gyda’r geiriau hyn: “Felly ewch i wneud pobl o bob gwlad yn ddisgyblion i mi, a’u bedyddio nhw fel arwydd eu bod nhw wedi dod i berthynas â’r Tad, a’r Mab a’r Ysbryd Glân. A dysgwch nhw i wneud popeth dw i wedi’i ddweud wrthoch chi. Gallwch chi fod yn siŵr y bydda i gyda chi bob amser, nes bydd diwedd y byd wedi dod.” (Mathew 28:19-20).

Dyma alwad arall i fod yn ffrwythlon, comisiwn arall i ledaenu ei gariad a'i ogoniant dros y ddaear! Yn y bôn mae'n gyfle i ehangu'r ardd unwaith eto, ond y tro hwn gyda chysylltiad ag e na all gael ei dorri oherwydd ein gwendidau a'n methiannau.

Mae'n cynnig yr unig warant sydd o bwys i ni: Bydd e gyda ni.

Mae'n cynnig ei Bresenoldeb.

Pryd wyt ti wedi teimlo Presenoldeb Duw? Sut mae wedi effeithio arnat ti?

Diwrnod 1Diwrnod 3

Am y Cynllun hwn

Experiencing Friendship With God

Wyt ti'i'n profi tymor anialwch, heb ddod o hyd i ddŵr na hafan i'th enaid? Beth petai gan y tymor hwn y gobaith mwyaf oll: i adnabod Presenoldeb Duw yn agos, yn ddilys, ac yn angerddol? Mae'r defosiwn hwn yn dy annog nad yw'r amser hwn yn cael ei wastraffu, er y teimli rai dyddiau nad wyt yn mynd i unman. Oherwydd waeth pa dir bynnag wyt ti'n ei droedio, mae Duw yn teithio gyda thi fel Cysurwr, Rhoddwr Bywyd, a Chyfaill.

More

Hoffem ddiolch i WaterBrook Multnomah am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://waterbrookmultnomah.com/books/726243/experiencing-friendship-with-god-by-faith-eury-cho/