Logo YouVersion
Eicon Chwilio

P[rofi Cyfeillgarwch gyda DuwSampl

Experiencing Friendship With God

DYDD 3 O 5

Grwgnach yn yr Anialwch

Er bod Duw yn weladwy yn y pla a ysgydwodd yr Aifft a thorri eu hualau o gaethwasiaeth, doedd gan Israeliaid yr Exodus ddim yr un agosatrwydd at Dduw ag oedd gan Moses. Felly, pan aeth pethau'n anodd, wnaethon nhw rwgnach. “Pam yn y byd wnest ti ddod â ni allan o’r Aifft?” (gweler Exodus 14:11-12; 16:3; 17:3).

Er mor wan ac anniolchgar ag y mae Israel yn ymddangos, mae'r grwgnach chwerw hyn yn ddealladwy. Pan fydd bywyd yn anodd, bydd ein henaid yn dweud rhywbeth fel “Iawn, Dduw, os nad wyt ti'n mynd i fy nghael i allan o hyn, yna dw i'n mynd i ddod allan ohono fy hun.” Dyma pryd dŷn ni'n dechrau anwybyddu'r Ysbryd Glân a dechrau pwyso ar ein greddf ein hunain. Pan fydd grwgnach yn troi at weithredu, dŷn ni’n meithrin annibyniaeth ysbrydol oddi wrth y Presenoldeb sy'n arwain at ddibyniaeth ar bobl a phethau eraill.

Mae'n haws gwrthryfela na chydnabod Duw, llethu yn ein hanfodlonrwydd a'n hanghrediniaeth na throi at ei Bresenoldeb. Ond, Gyfaill Duw, gelli di wneud gytundeb sanctaidd heddiw. Gelli ffeirio’r grwgnach am gyfeillgarwch.

Myfyria ar y gwirioneddau canlynol wrth i ti frwydro yn erbyn dy rwgnach:

1.Mae e gyda thi. “Ble alla i fynd oddi wrth dy Ysbryd? I ble alla i ddianc oddi wrthot ti? Petawn i’n mynd i fyny i’r nefoedd, rwyt ti yno; petawn i’n gorwedd i lawr yn Annwn, dyna ti eto!” (Salm 139:7-8)

2.Mae'n gwybod beth mae'n ei wneud. “Fel mae’r nefoedd gymaint uwch na’r ddaear, mae fy ffyrdd i yn uwch na’ch ffyrdd chi, a’m bwriadau i yn well na’ch bwriadau chi.” (Eseia 55:9)

Cyn treulio hanner awr arall yn magu dros chwerwder tanbaid, yn poeni am ganlyniad, neu’n sgrolio’n ddifeddwl ar gyfryngau cymdeithasol i ddianc odi wrth dy broblemau, tria ddarllen y ddwy adnod hyn ac eistedd ar y gwirioneddau hyn am ychydig. Mae myfyrio ar wirionedd Duw yn unioni dy feddwl, corff, ac ysbryd ac yn caniatáu i ti fod yn gwbl bresennol gyda Iesu.

Beth wyt ti wedi bod yn grwgnach yn ei gylch yn ddiweddar? Sut mae canolbwyntio ar Bresenoldeb Duw yn newid dy bersbectif ar y problemau hynny?

Diwrnod 2Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

Experiencing Friendship With God

Wyt ti'i'n profi tymor anialwch, heb ddod o hyd i ddŵr na hafan i'th enaid? Beth petai gan y tymor hwn y gobaith mwyaf oll: i adnabod Presenoldeb Duw yn agos, yn ddilys, ac yn angerddol? Mae'r defosiwn hwn yn dy annog nad yw'r amser hwn yn cael ei wastraffu, er y teimli rai dyddiau nad wyt yn mynd i unman. Oherwydd waeth pa dir bynnag wyt ti'n ei droedio, mae Duw yn teithio gyda thi fel Cysurwr, Rhoddwr Bywyd, a Chyfaill.

More

Hoffem ddiolch i WaterBrook Multnomah am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://waterbrookmultnomah.com/books/726243/experiencing-friendship-with-god-by-faith-eury-cho/